Carmarthenshire County Council’s Cabinet has adopted the Non-Domestic Rates Retail, Leisure and Hospitality Rates Relief scheme for Wales, which is aimed at supporting businesses and other eligible ratepayers.
The scheme, extended by the Welsh Government for 2023/24, offers a discount of 75% on non-domestic rates for eligible occupied properties.
The relief will be subject to a cap of £110,000 in the amount each business can claim across all properties occupied by them in Wales. Businesses that make an application for the relief to individual local authorities must declare that the amount of relief they are seeking across Wales does not exceed this cap.
The High Street Rate Relief Scheme was first introduced by the Welsh Government in 2017. In response to the Coronavirus emergency in 2020/21, it announced that it would continue with the Retail, Leisure and Hospitality Rates Relief scheme and increase the discount to 100% and, in addition to the retail sector, extend it to include leisure and hospitality sectors, which include shops, pubs, restaurants, gyms, performance venues and hotels.
The relief discount was reduced to 50% for the year 2022/23, but now goes up to 75%.
Cabinet Member for Resources, Cllr. Alun Lenny said “I welcome this increase in grant funding for our retail, leisure and hospitality sector and I would encourage all eligible businesses in Carmarthenshire, which includes our shops, restaurants, pubs, gyms, leisure facilities and hotels to apply for this support.
“This relief in business rates by Welsh Government is a discretionary power and therefore requires the Council to formally adopt the scheme. However, it should be noted that it’s the Government that indicates the types of business they consider appropriate for this relief, and those which are not.”
Please visit Carmarthenshire County Council to apply for non-domestic rates relief.
Cabinet yn mabwysiadu gostyngiad o 75% yn y cynllun rhyddhad ardrethi busnes
Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu’r cynllun Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Cymru sydd â’r nod o gefnogi busnesau a threthdalwyr cymwys eraill.
Mae’r cynllun, a gafodd ei ymestyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24, yn cynnig gostyngiad o 75% ar ardrethi annomestig ar gyfer eiddo gwag sy’n gymwys.
Bydd y rhyddhad yn destun cap o £110,000 o ran y cyfanswm y gall pob busnes ei hawlio ar draws pob eiddo sydd ganddynt yng Nghymru. Rhaid i fusnesau sy’n gwneud cais am y rhyddhad i awdurdodau lleol unigol ddatgan nad yw cyfanswm y rhyddhad y maent yn cyflwyno cais amdano ledled Cymru yn uwch na’r cap hwn.
Cafodd Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr ei gyflwyno gyntaf gan Lywodraeth Cymru yn 2017. Mewn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws yn 2020/21, cyhoeddodd y byddai’n parhau â’r cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch a chynyddu’r gostyngiad i 100% ac, yn ychwanegol i’r sector manwerthu, ei ymestyn i gynnwys sectorau hamdden a lletygarwch, sy’n cynnwys siopau, tafarndai, bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.
Cafodd gostyngiad y rhyddhad ei leihau i 50% ar gyfer y flwyddyn 2022/23, ond mae bellach wedi cynyddu i 75%.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ,y Cynghorydd Alun Lenny, “Rwy’n croesawu’r cynnydd hwn mewn cyllid grant i’n sector manwerthu, hamdden a lletygarwch, a byddwn yn annog pob busnes cymwys yn Sir Gaerfyrddin, sy’n cynnwys ein siopau, bwytai, tafarndai, campfeydd, cyfleusterau hamdden a gwestai i gyflwyno cais am y cymorth hwn.
“Mae’r rhyddhad ardrethi busnes hwn gan Lywodraeth Cymru yn bŵer disgresiwn ac felly mae’n ofynnol i’r Cyngor fabwysiadu’r cynllun yn ffurfiol. Fodd bynnag, dylid nodi mai’r Llywodraeth sy’n nodi’r mathau o fusnesau y mae’n ei hystyried yn briodol ar gyfer y rhyddhad hwn, a’r rhai nad ydynt.”
Ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin i wneud cais am ryddhad ardrethi annomestig.
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.