MAE Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gwneud datganiad ar ol i Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) rhoi cyngor pellach ar y cynhyrchion brechlyn ar gyfer ymgyrch atgyfnerthu Covid-19 yr hydref.
Meddai’r Gweinidog:
“Yn sgil ymddangosiad amrywiolion, datblygwyd brechlynnau ar gyfer amrywiolion penodol, gyda’r amcan o gyflawni cydweddiad gwell o safbwynt imiwnedd a ysgogir gan frechlyn yn erbyn straeniau sy’n cylchredeg. Mae brechlynnau sy’n cynnwys dau antigen gwahanol, gyda’r ddau yn seiliedig ar straeniau gwahanol o SARS-CoV2, yn cael eu galw’n frechlynnau deufalent. Felly, gall brechlynnau deufalent o bosibl wella amddiffyniad yn erbyn rhai amrywiolion o SARS-CoV2.
Yn ddiweddar, cyhoeddais ddatganiad yn eich hysbysu bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi cymeradwyo’r brechlyn deufalent Moderna mRNA. Rwy’n falch o gyhoeddi bod yr MHRA bellach wedi cymeradwyo’r brechlyn deufalent Pfizer mRNA. Yn sgil hynny, mae’r JCVI wedi argymell y gellir defnyddio’r brechlyn deufalent hwn fel dos atgyfnerthu unigol yn ymgyrch yr hydref.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gael ei harwain gan y dystiolaeth a’r cyngor clinigol a gwyddonol diweddaraf. Felly, ynghyd â’m cyd-Weinidogion Iechyd yn y DU, rwyf wedi derbyn y cyngor hwn ac wedi cytuno y bydd brechlyn deufalent Pfizer mRNA yn cael ei ddefnyddio yn ymgyrch brechiadau atgyfnerthu Covid-19 yng Nghymru.
Bydd ein hymgyrch atgyfnerthu yn helpu i roi hwb i imiwnedd y rhai sy’n wynebu mwy o berygl os ydynt yn dal Covid-19, gan wella eu hamddiffyniad rhag salwch difrifol a helpu i ddiogelu’r GIG y gaeaf hwn.
Bydd ein Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol yn sicrhau hefyd bod y bobl sy’n gymwys yn cael eu hamddiffyn rhag y ffliw tymhorol eleni, ac rydym yn annog pobl i fanteisio ar y cyfle i gael eu brechlynnau ffliw a Covid-19 pan gânt eu cynnig.
Dyma’r ffordd orau o ddiogelu eich hunain a’ch teuluoedd a diogelu Cymru y gaeaf hwn. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r Gwasanaeth Iechyd ac i bawb sy’n rhan o’r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.”
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.