Diweddariad ar cynnydd coronafeirws yng Nghymru

MAE Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi datgelu y ffigurau diweddaraf ar y cynnydd cyson coronafeirws traws Cymru. Nawr mae un person mewn ugain yn dioddef o’r feirws.

Meddai y Gweinidog:

“Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd cyson yn nifer yr heintiau coronafeirws yng Nghymru. Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am sefyllfa bresennol iechyd y cyhoedd.

Rydym yng nghanol ton newydd o heintiau, a achosir gan yr is-deipiau BA.4 a BA.5 o’r amrywiolyn omicron. Mae’r rhain yn symud yn gyflym ac yn fathau heintus iawn o’r feirws, sy’n achosi ymchwydd mewn heintiau ledled y DU ac mewn llawer o wledydd eraill ar draws y byd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd mai’r amrywiolyn amlycaf yng Nghymru ar hyn o bryd yw’r amrywiolyn BA.5 o omicron.

Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiadau Coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod gan 4.93% o boblogaeth Cymru COVID-19 yn yr wythnos yn diweddu 30 Mehefin – mae hyn yn cyfateb i tua un person o bob 20. Mae hyn wedi cynyddu o amcangyfrif o 1.33% o’r boblogaeth (un o bob 75) o’r wythnos yn diweddu 2 Mehefin.

Ledled y DU, mae amcangyfrifon o gyffredinrwydd y coronafeirws yn amrywio o 3.95% yn Lloegr i 5.94% yn yr Alban ar gyfer yr wythnos yn diweddu 30 Mehefin.

Fel  y gwelsom mewn tonnau blaenorol, mae’r cynnydd mewn achosion yn y gymuned wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty a’u trin ar gyfer COVID-19. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos bod mwy na 960 o gleifion sy’n gysylltiedig â COVID-19 bellach mewn ysbytai yng Nghymru a bu cynnydd hefyd yn nifer y bobl â COVID-19 sy’n cael eu trin mewn gofal critigol.

Mae nifer mawr o staff y GIG i ffwrdd o’r gwaith ar hyn o bryd oherwydd bod COVID-19 arnynt.

Mae’r GIG wedi bod yn gweithio’n galed iawn i ddarparu gofal wedi’i gynllunio i bobl ledled Cymru ac i leihau amseroedd aros, sydd wedi cronni yn ystod y pandemig. Daw’r dasg hon yn fwy anodd pan fydd pwysau pandemig yn cynyddu.

Mae rhai ysbytai wedi gwneud y penderfyniad anodd i gyfyngu ar ymweliadau i atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhlith cleifion a staff; mae eraill yn gofyn i bob ymwelydd wisgo gorchudd wyneb.

Nid ydym yn gwneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn lleoliadau iechyd a gofal, ond byddwn yn annog pawb i wisgo un os ydynt yn ymweld â lleoliad gofal iechyd a byddwn hefyd yn gofyn i bobl ystyried gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do gorlawn, gan fod achosion o’r coronafeirws yn uchel iawn ar hyn o bryd.

Rydym wedi ymestyn argaeledd profion llif unffordd am ddim i bobl sydd â symptomau’r coronafeirws tan ddiwedd mis Gorffennaf. Mae nifer o gamau syml eraill y gall pawb eu cymryd i ddiogelu ein gilydd a diogelu Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

Cael ein brechu; Sicrhau hylendid dwylo da; Aros gartref a chyfyngu ar ein cysylltiad ag eraill os ydyn ni’n sâl; Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do gorlawn neu gaeedig; Cwrdd ag eraill yn yr awyr agored os yw’n bosibl ac Pan fyddwn dan do, cynyddu’r awyru a gadael awyr iach i mewn”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page