Health board will discuss temporary changes to children’s hospital services

Hywel Dda University Health Board will discuss changes to children’s (paediatric) hospital services in the south of the area since 2014, in its next meeting on Thursday 29 September.

The Board will receive an assessment of the temporary changes made at Withybush Hospital, Haverfordwest, and Glangwili Hospital, Carmarthen. This includes a timeline, the reasons for change, data on patient safety, and consideration of the feedback and experience from patients, their families and carers, and staff.

Next week, Board Members will be asked to note the paper and support the next steps to develop options for provision of children’s hospital services until a new urgent and planned care hospital is opened, currently predicted to take until at least 2029 to open.

The clinically led option appraisal will involve the voice of multi-disciplinary teams, as well as children and young people, and their parents or guardians/carers. The Health is aiming for equal representation for staff and others, inclusive of service users, representatives and third sector and geographically representative of the areas served.

It will include work to agree what are the most important criteria for choosing how to deliver children’s hospital services and an assessment of viable options.

The following temporary changes are reviewed in the report:

December 2016 change in the opening hours of the daytime Paediatric Ambulatory Care Unit at Withybush Hospital from 10am-10pm seven days a week, to 10am-6pm seven days a week. Also, the temporary merger of the overnight consultation on-call rotas for Glangwli and Withybush hospitals, into one rota based at Glangwili Hospital. This change was due to significant recruitment challenges, limiting the availability of on-site consultant support and supervision needed in the PACU at Withybush Hospital
March 2020 change of transferring the staff, equipment and services of the Paediatric Ambulatory Care Unit at Withybush Hospital to care for patients across the south of the area at Glangwili Hospital. This was to support the response to the COVID-19 pandemic
September 2021 extension to the temporary arrangement due to there being an anticipated surge in Respiratory Syncytial Virus (RSV).

General findings contained in the issue paper show very low numbers of patient safety incidents and formal complaints in relation to the temporary service changes.

The health board has recently invited, children, young people and families who have used children’s hospital services in recent years, to share their views and experiences.

There has also been an analysis of patient feedback throughout the service changes.

 

The report acknowledges a large amount of feedback and requests asked for services to return to Withybush Hospital, but there were different views on what those services should be and how they should be delivered.

 

Deputy Chief Executive and Medical Director Professor Philip Kloer said: “We hope the robustness of this ongoing review, along with the options development for the interim service with input from our clinicians and public representatives, will provide reassurance that we are scrutinising and properly planning interim hospital services for children that are safe, accessible, sustainable and kind. We will continue to keep our communities up-to-date with our service development.”

The Board will consider, likely in its November 2022 meeting and following discussion with the Community Health Council, the outcome of the option appraisal process and if engagement or consultation on the future of the interim service is necessary.

If you have general views about the way children’s services are delivered now and in the future, which you want to be considered during the review, you can visit our continuous engagement site Dweud Eich Dweud Have Your Say pages at: www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk/share-your-views-paediatric-services

You can also register here if you have an interest in taking part in future engagement activities, such as workshops. The next workshops are due to take place on 6th and 20th October 2022.

If you are a child, young person, parent or guardian/carer who wants to provide us with specific feedback on your experience of care with the Health Board, age appropriate questionnaires are available on our children’s wards. You can also complete a questionnaire online via our patient support service webpages, just search ‘‘feedback’ on: https://hduhb.nhs.wales/

More information on our children’s services and what our hospitals and community services offer, are available from: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/childrens-services/

To view the Board papers, or to access a link to watch the meeting on the day, please visit: https://hduhb.nhs.wales/about-us/your-health-board/board-meetings-2022/


 Y Bwrdd Iechyd i drafod newidiadau dros dro i wasanaethau ysbyty i blant

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod y newidiadau i wasanaethau ysbyty i blant (pediatreg) yn ne’r ardal ers 2014, yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 29 Medi.

Bydd y Bwrdd yn derbyn asesiad o’r newidiadau dros dro a wnaed yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ac Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys amserlen, y rhesymau dros newid, data ar ddiogelwch cleifion ac ystyriaeth o adborth a phrofiad cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a staff.

Yr wythnos nesaf, gofynnir i Aelodau’r Bwrdd nodi’r papur a chefnogi’r camau nesaf i ddatblygu opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau ysbyty i blant nes bod ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn cael ei agor, y rhagwelir ar hyn o bryd y bydd yn cymryd tan o leiaf 2029 i agor.

Bydd yr arfarniad opsiynau dan arweiniad clinigol yn cynnwys llais timau amlddisgyblaethol, yn ogystal â phlant a phobl ifanc, a’u rhieni neu warcheidwaid/gofalwyr. Mae’r Bwrdd Iechyd yn anelu at gynrychiolaeth gyfartal ar gyfer staff ac eraill, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, cynrychiolwyr a’r trydydd sector yn ogystal â chynrychiolaeth ddaearyddol o’r ardaloedd a wasanaethir.

Bydd yn cynnwys gwaith i gytuno ar y meini prawf pwysicaf ar gyfer dewis sut i ddarparu gwasanaethau ysbyty i blant ac asesiad o opsiynau hyfyw.

Adolygir y newidiadau dros dro canlynol yn yr adroddiad:

Newid ym mis Rhagfyr 2016 i oriau agor yr Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn ystod y dydd yn Ysbyty Llwynhelyg o 10am-10pm saith diwrnod yr wythnos, i 10am-6pm saith diwrnod yr wythnos. Hefyd, uno dros dro rotâu ar alwad dros nos yr ymgynghorwyr ar gyfer ysbytai Glangwili a Llwynhelyg, yn un rota yn Ysbyty Glangwili. Roedd y newid hwn o ganlyniad i heriau recriwtio sylweddol, gan gyfyngu ar argaeledd cymorth a goruchwyliaeth gan feddygon ymgynghorol ar y safle sydd ei angen yn yr Uned PACU yn Ysbyty Llwynhelyg.
Newid ym mis Mawrth 2020 i drosglwyddo staff, offer a gwasanaethau’r Uned Gofal Ambiwladol Pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg i ofalu am gleifion ar draws de’r ardal yn Ysbyty Glangwili. Roedd hyn i gefnogi’r ymateb i’r pandemig COVID-19
Estyniad ym mis Medi 2021 i’r trefniant dros dro oherwydd y rhagwelir y bydd ymchwydd yn y Feirws Syncytiol Anadlol (RSV).

Mae canfyddiadau cyffredinol yn y papur materion yn dangos niferoedd isel iawn o ddigwyddiadau diogelwch cleifion a chwynion ffurfiol mewn perthynas â’r newidiadau dros dro i wasanaethau.

Yn ddiweddar, mae’r bwrdd iechyd wedi gwahodd plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi defnyddio gwasanaethau ysbyty i blant dros y blynyddoedd diwethaf, i rannu eu barn a’u profiadau.

Bu dadansoddiad hefyd o adborth cleifion drwy gydol y newidiadau i wasanaethau.

 

Mae’r adroddiad yn cydnabod llawer iawn o adborth a cheisiadau’n gofyn am i wasanaethau ddychwelyd i Ysbyty Llwynhelyg, ond roedd safbwyntiau gwahanol ynghylch beth ddylai’r gwasanaethau hynny fod a sut y dylid eu darparu.

 

Dywedodd yr Athro Philip Kloer, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Meddygol: “Rydym yn gobeithio y bydd cadernid yr adolygiad parhaus hwn, ynghyd â’r opsiynau a ddatblygwyd ar gyfer y gwasanaeth dros dro gyda mewnbwn gan ein clinigwyr a chynrychiolwyr y cyhoedd, yn rhoi sicrwydd ein bod yn craffu ac yn cynllunio gwasanaethau ysbyty dros dro yn briodol ar gyfer plant, a’u bod yn ddiogel, hygyrch, cynaliadwy a charedig. Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n cymunedau am ddatblygiad ein gwasanaethau.”

Bydd y Bwrdd yn ystyried, yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2022 yn ôl pob tebyg ac yn dilyn trafodaeth gyda’r Cyngor Iechyd Cymuned, ganlyniad y broses arfarnu opsiynau ac a oes angen ymgysylltu neu ymgynghori ar ddyfodol y gwasanaeth dros dro.

Os oes gennych chi farn gyffredinol am y ffordd y mae gwasanaethau plant yn cael eu darparu nawr ac yn y dyfodol, yr hoffech gael ystyriaeth yn ystod yr adolygiad, gallwch ymweld â’n tudalennau Dweud Eich Dweud ar ein gwefan ymgysylltu parhaus Dweud Eich Dweud Have Your Say yn: https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/rhannwch-eich-barn-gwasanaethau-plant

Gallwch hefyd gofrestru yma os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu yn y dyfodol, megis gweithdai. Bydd y gweithdai nesaf yn cael eu cynnal ar 6 a 20 Hydref 2022.

Os ydych yn blentyn, yn berson ifanc, yn riant neu warcheidwad/gofalwr sydd am roi adborth penodol i ni ar eich profiad o ofal gyda’r Bwrdd Iechyd, mae holiaduron sy’n briodol i’r oedran ar gael ar ein wardiau plant. Gallwch hefyd lenwi holiadur ar-lein trwy dudalennau gwe ein gwasanaeth cymorth i gleifion, chwiliwch am ‘adborth’ yn: https://hduhb.nhs.wales/

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau plant a’r hyn y mae ein hysbytai a’n gwasanaethau cymunedol yn ei gynnig ar gael yn: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/childrens-services/

I weld papurau’r Bwrdd, neu i weld dolen i wylio’r cyfarfod ar y diwrnod, ewch i: https://hduhb.nhs.wales/about-us/your-health-board/board-meetings-2022/

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page