Staff llyfrgell Abertawe yn helpu i ddod â straeon mewn ffordd hollol newydd

MAE staff Llyfrgell Abertawe’n flaenllaw wrth gyflwyno profiad adrodd straeon unigryw newydd yn y ddinas y mis hwn.

Mae timau o wasanaeth llyfrgelloedd Cyngor Abertawe yn chwarae eu rolau unigryw eu hunain fel rhan o’r profiad ‘Storytrails’ y gellir ymgolli ynddo.

Mae’n rhan o UNBOXED: Creativity in the UK, dathliad arloesol o greadigrwydd a gynhelir ledled y DU yn 2022 dan arweiniad y Ganolfan Genedlaethol dros Adrodd Straeon y Gellir Ymgolli Ynddynt: StoryFutures Academy.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King:

“Mae’n wych bod staff y llyfrgelloedd yn defnyddio’u doniau, eu sgiliau a’u haddysg i helpu i ddod â StoryTrails yn fyw yn Abertawe. Bydd yn ddeuddydd ardderchog llawn hwyl i bobl leol ac rwy’n gwybod y bydd teuluoedd o’r ardal yn mwynhau’r profiadau newydd a ddaw yn ei sgil.”

Bydd StoryTrails yn ymweld â Llyfrgell Ganolog Abertawe ar 10 ac 11 Awst rhwng 11am a 7pm.

Mae Owen Richards, adroddwr straeon digidol yn creu map rhyngweithiol o Abertawe y gellir ymgolli ynddo. Mae’r gwneuthurwr ffilmiau, Jay Bedwani, yn creu llwybr straeon realiti estynedig o amgylch y ddinas.

Y tu fas i’r llyfrgell bydd ymwelwyr yn mynd i mewn i borth straeon rhithwir, gyda pherfformwyr lleol ac ap realiti estynedig symudol am ddim ar gael i’w harwain. Bydd angen dangos cerdyn adnabod â llun er mwyn benthyca cyfarpar ar gyfer hyn.

Y tu mewn i’r llyfrgell bydd ymwelwyr yn ymgolli mewn map rhithwir o’r ddinas a fydd yn cynnwys modelau 3D a straeon clywedol.

Mae StoryFutures Academy, Canolfan Genedlaethol y DU dros Adrodd Straeon y Gellir Ymgolli Ynddynt, yn flaenllaw o ran hyfforddi gweithwyr proffesiynol cyfryngau creadigol i ddefnyddio’r genhedlaeth nesaf o ddulliau adrodd straeon a gwella’u sgiliau yn y maes hwn.

Am ragor o fanylion ewch i story-trails.com, @StoryTrailsProject ar Facebook ac Instagram neu @StoryFuturesA a @StoryFutures ar Twitter.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page