Galw ar y Gweinidog Addysg cyn Protest Dros Ysgolion Pentre

Llun: google Maps

Bydd disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a chefnogwyr pedair ysgol bentrefol Gymraeg arall yn Sir Gâr yn ymgasglu am 08.30 ddydd Llun (2 Tachwedd) y tu allan i Neuadd y Sir Caerfyrddin o flaen cyfarfod Cabinet y Cyngor Sir a fydd yn trafod awdurdodi cynigion i gau Ysgol Bancffosfelen, Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Blaenau.

Caiff y brotest ei threfnu gan lywodraethwyr a’i chefnogi gan Gymdeithas yr Iaith, sydd heddiw wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Anna Brychan, i gymryd tri cham ymarferol i helpu ysgolion pentrefol.

Ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr, esboniodd Ffred Ffransis eu bod wedi ysgrifennu at Anna Brychan yn gofyn iddi gymryd y tri cham hyn:

Cam 1: Adfer y Grant Ysgolion Bach a Gwledig yr arferai Llywodraeth Cymru ei roi i Awdurdodau Lleol tuag at gostau ychwanegol ysgolion pentre.

Esboniodd Mr Ffransis:

“Bu hwn yn grant cymharol fach o £2.5 miliwn y flwyddyn i’w dosbarthu i Awdurdodau Lleol a oedd â llu o ysgolion bach a gwledig, er mwyn helpu talu am y costau ychwanegol. Dyma un o’r ychydig fuddsoddiadau sydd yn y cymunedau pentrefol hyn. Parhaodd y grant am flynyddoedd, ond cafodd ei derfynu ym mis Gorffennaf 2024 gan y cyn-Brif Weinidog, Vaughan Gething, wrth fod y Llywodraeth Lafur ar y pryd yn rhedeg allan o stem ac o weledigaeth. Erbyn hyn, rhaid i Awdurdodau Lleol dalu am y costau ychwanegol o’u cyllidebau eu hunain, ac mae’r cymunedau pentrefol Cymraeg yn talu’r pris.”

Cam 2: Atgoffa Awdurdodau Lleol fod y grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy at ddatblygiadau cyfalaf ar gael ar gyfer uwchraddio adeiladau ysgolion pentre, yn ogystal ag ar gyfer creu adeiladau newydd ar gyfer ysgolion mawr canolog.

Dywedodd Mr Ffransis:

“Mae pob Gweinidog Addysg ddiweddar – Kirsty Williams, Jeremy Miles, Lynn Neagle – wedi sicrhau Cymdeithas yr Iaith o hyn, ond mae’r diffyg buddsoddi mewn ysgolion pentre wedi parhau. Hyd yn oed yn ôl ffigurau Cyngor Sir Gâr ei hun, byddai uwchraddio Ysgol Bancffosfelen yn fwy cost-effeithlon na’r cynnig cyfredol, a byddai defnyddio’r grant i anrhydeddu’r ymrwymiad i wella adeilad Ysgol Carwe yn well ateb na chau’r ysgol a gwasgu’r plant i mewn i ysgolion eraill.”

Cam 3: Hyrwyddo’r defnydd o gapasiti dros ben mewn ysgolion pentre i sefydlu clybiau dysgu Cymraeg a gweithgareddau Cymraeg i fewnfudwyr i’r cymunedau pentrefol.

Meddai Mr Ffransis:

“Yr ysgolion hyn yw pwerdai Cymraeg y cymunedau pentrefol, a chefnogwn alwadau Llywodraethwyr i estyn eu dylanwad at y cymunedau ehangach fel rhan o ymateb y llywodraeth i her adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.”

You cannot copy any content of this page