Taliad plant wythnosol o £10 yn symud gam yn nes

Mae Llywodraeth Cymru wedi symud gam yn nes at gyflwyno Cynnal, y taliad plant wythnosol o £10, wrth i’r grŵp arbenigol sy’n gyfrifol am lunio’r cynllun gyfarfod am y tro cyntaf heddiw.

Bydd cynllun peilot Cynnal yn darparu £10 yr wythnos i hyd at 15,000 o blant mewn aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, ar draws nifer cyfyngedig o ardaloedd awdurdodau lleol.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn cyd-gadeirio’r grŵp arbenigol sy’n dwyn ynghyd gyfoeth o wybodaeth o’r byd academaidd, ymchwil, gwasanaethau rheng flaen a Llywodraeth Cymru. Bydd y grŵp yn cynghori ar ddylunio, gweithredu a gwerthuso’r peilot, gan sicrhau ei fod yn cael ei lywio gan dystiolaeth, arbenigedd proffesiynol a phrofiad byw o dlodi.

Yn y cyfarfod heddiw, trafododd aelodau amcanion y peilot a’r ystod oedran targed.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams: “Mae gormod o deuluoedd yng Nghymru yn wynebu heriau gyda chostau cynyddol ac ansicrwydd gwaith. Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag anghyfiawnder tlodi plant ac mae’n flaenoriaeth graidd i’r llywodraeth hon. Dyna pam rydyn ni’n symud i ddechrau datblygu’r taliad Cynnal, sydd wedi’i gynllunio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ymarferol i fywydau plant.

 “Rwy’n falch o ddod â grŵp mor gryf o arbenigwyr at ei gilydd, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i ddylunio cynllun peilot sy’n effeithiol, sydd â modd ei gyflawni, ac sy’n adlewyrchu profiadau’r teuluoedd rydyn ni yma i’w cefnogi.”

 Dywedodd cyd-gadeirydd y grŵp a Phrif Swyddog Gweithredol Sefydliad Bevan, Steffan Evans:  “Byddai Taliad Plant Cymru yn arf pwerus i fynd i’r afael â thlodi plant. Felly, rwy’n falch iawn bod y gwaith o sefydlu’r cynllun peilot Cynnal bellach ar y gweill. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau eraill y grŵp i sicrhau bod y cynllun peilot yn gweithio mor effeithiol â phosibl, rhywbeth a fyddai’n gam mawr ymlaen wrth fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru.”

Cyn y cyfarfod, ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog â Chanolfan Plant Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd, partner i Achub y Plant Cymru, i glywed gan staff am effaith costau cynyddol ar y plant a’r teuluoedd maent yn eu cefnogi.

Dywedodd Mari Williams, aelod o’r grŵp arbenigol ac Uwch Reolwr Polisi ac Ymchwil yn Achub y Plant Cymru:  “Rydyn ni’n gwybod o wrando ar blant pa mor ddwfn mae tlodi yn effeithio ar eu bywydau, nid yn unig gan gyfyngu ar fynediad at bethau hanfodol ond hefyd gan siapio perthnasoedd, cyfleoedd a lles plant. Byddai taliad plant wythnosol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol – gan helpu teuluoedd i gwrdd ag anghenion sylfaenol, galluogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau plentyndod a fyddai fel arall allan o’u cyrraedd, a chefnogi plant i ffynnu.”

 

You cannot copy any content of this page