Hwb o £17 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith uwchraddio ynni cartrefi

Bydd teuluoedd o Gymru yn elwa o gartrefi mwy cyfforddus ac effeithlon o ran ynni wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi £17 miliwn i uwchraddio ynni cartrefi, lleihau biliau ynni cartrefi a mynd i’r afael â thlodi tanwydd ledled Cymru.

Daw’r buddsoddiad ar ôl i adolygiad o’r rhaglen bresennol, sef Cartrefi Clyd, a gwblhawyd fel rhan o ymrwymiadau 100 Diwrnod Cyntaf Llywodraeth Cymru, nodi cyfleoedd i fynd ymhellach ac yn gyflymach o ran gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi.

Bydd tair rhaglen ar eu hennill. Mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn cael £8 miliwn i ôl-osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn tai cymdeithasol. Mae £5 miliwn arall yn mynd i’r cynllun Nyth, sy’n cefnogi aelwydydd cymwys yn y sector preifat.

Mae’r £4 miliwn sy’n weddill yn ariannu gweithgarwch newydd mewn ardaloedd penodol, a fydd yn cynnwys targedu aelwydydd gwledig a chartrefi oddi ar y grid sy’n dibynnu ar olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifedig. Bydd y cynlluniau peilot hyn sy’n cynnig modelau cyflawni amgen a newydd yn ategu cynllun peilot Tai Clyd Caerdydd sy’n cael ei gyflwyno yn y Tyllgoed, Adamsdown a rhannau o’r Sblot.

Ym Mharc Penrhiw yn Rhydaman, mae costau ynni misol trigolion eisoes wedi gostwng o tua £200 i lai na £100 ar ôl gwaith uwchraddio gan gynnwys paneli solar, systemau storio batri, inswleiddio, a systemau gwresogi modern.

Yn ddiweddar, ymwelodd Siân Gwenllian, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, â’r datblygiad i gwrdd â’r trigolion a gweld y canlyniadau o lygad y ffynnon:

“Mae’r hyn rydyn ni wedi’i weld ym Mharc Penrhiw yn dangos pam yn union mae’r buddsoddiad hwn yn bwysig. Mae’r rhain yn deuluoedd go iawn sy’n gwario llai i fyw’n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu cartrefi, wrth i filiau ynni is roi mwy o arian yn ôl ym mhocedi pobl a helpu gyda chostau byw.

“Dim ond y dechrau yw’r £17 miliwn hwn, a bydd yn ein helpu i gyrraedd rhagor o aelwydydd ledled Cymru, gan gynorthwyo mwy o deuluoedd i ymdopi â chostau byw gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”

Mae gan eiddo a oedd yn dibynnu ar danau glo yn y gorffennol, bellach ddewisiadau eraill, trydanol sy’n lanach – gan wella ansawdd aer a lleihau gofynion corfforol y dull o wresogi.

Dywedodd Jennifer Devereaux, preswylydd a symudodd gyda’i merch yn ddiweddar i dŷ wedi’i ôl-osod yn llawn:

“Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai gen i gredyd gyda fy nghyflenwr ynni. Mae rhoi’r gorau i’r tân glo wedi gwneud cymaint o wahaniaeth – mae’r tŷ yn gynhesach pan mae’n oer y tu allan, mae’n iachach, a does dim rhaid i mi boeni am filiau fel yr oeddwn i’n gwneud yn y gorffennol.”

Mae’r buddsoddiad hwn yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella safonau byw a sicrhau cartrefi iachach, gan gefnogi amcanion datgarboneiddio.

Dywedodd Scott Sanders, Prif Weithredwr Grŵp Codi: “Mae’r buddsoddiad hwn yn newyddion croesawgar i gymunedau ledled Cymru ac yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y gall gweithio mewn partneriaeth ei wneud. Yn Codi, rydym wedi gweld y dylanwad y gall ôl-osod o ansawdd uchel ei gael ar gwsmeriaid ym Mharc Penrhiw. Gan weithio gyda chontractwyr lleol, rydym wedi creu cartrefi mwy cynnes, biliau ynni is a lleoedd iachach i fyw ynddynt, gan gyfrannu at les personol.

“Rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i helpu darparu’r gwelliannau hyn ac yn edrych ymlaen at barhau â’r bartneriaeth hon wrth i fwy o gartrefi allu manteisio ar gartrefi sy’n effeithlon o ran ynni a chyfrannu at amgylchedd mwy cynaliadwy.”

You cannot copy any content of this page