Trafnidiaeth Cymru yn rhoi hwb i wasanaethau trenau a bysiau yn Eisteddfod y Garreg Las

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynyddu nifer y gwasanaethau trenau a bysiau fydd ar gael ledled Gorllewin Cymru i sicrhau bod cyrraedd yr Eisteddfod eleni yn Llantwd mor hawdd a chynaliadwy â phosibl.
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw pinacl calendr diwylliannol Cymru. Mae’n ddigwyddiad gwirioneddol unigryw sy’n symud rhwng gogledd a de Cymru bob blwyddyn ac yn ddathliad bywiog o iaith a diwylliant Cymru.

Cynhelir eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd, Gogledd Sir Benfro, rhwng 1 – 8 Awst 2026, ac mae’n nodi 850 o flynyddoedd ers yr eisteddfod gyntaf erioed a gynhaliwyd yn 1176 yn Aberteifi..

Er mwyn cefnogi’r rheini fydd yn mynd i’r Eisteddfod, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwella’r opsiynau fydd ar gael i deithio ar drên, bws ac ar alw i sicrhau taith esmwyth i’r Maes:

• Gwasanaethau Trenau: Gwasanaethau bore, prynhawn a gyda’r nos ychwanegol i/o Harbwr Abergwaun, gan gynnig cysylltiad di-dor i deithwyr sy’n dod o Gaerdydd, Abertawe a thu hwnt i gysylltu â’r bws T5 i’r Maes.

• Gwasanaeth amlach gan T5 TrawsCymru: Gwasanaeth bob awr rhwng Aberteifi ac Abergwaun a fydd yn cludo teithwyr yn uniongyrchol i’r Eisteddfod.

Daliwch y bws T5 yn syth i’r Eisteddfod – TrawsCymru

• Gwasanaeth fflecsi parth poppit: Mae’r gwasanaeth yn gwasanaethu’r ardal rhwng Abergwaun ac Aberteifi gan gynnwys Maes yr Eisteddfod yn Llantwd, yn ogystal â’r ardal i’r de cyn belled a Chrymych.

Sir Benfro | Trafnidiaeth Cymru

• Bws gwennol: Gwasanaeth bws gwennol pwrpasol am ddim a fydd yn teithio rhwng gorsaf Caerfyrddin a’r Maes a ddarperir gan Cymru Coaches.

Bydd parcio yng ngorsaf Caerfyrddin yn gyfyngedig ac anogir teithwyr i ddefnyddio gwasanaethau trên i gysylltu â’r bws gwennol pwrpasol.

Dywedodd Lowri Joyce, Pennaeth y Gymraeg yn Trafnidiaeth Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn chwarae ein rhan unwaith eto i helpu ymwelwyr i gyrraedd Maes yr Eisteddfod. Rydym wedi creu pecyn teithio gwirioneddol aml-ddull a byddem yn annog teithwyr i fanteisio ar y cysylltiadau trên a bws ychwanegol hyn i fwynhau taith wyrddach a rhwyddach i’r Eisteddfod yn Llantwd.

“Bydd ein tîm ar y Maes ar ddechrau’r wythnos, felly dewch draw i ddweud helo. P’un a ydych chi’n cystadlu neu’n ymweld, gobeithiwn y cewch chi wythnos wych yn mwynhau’r hyn sydd gan yr Eisteddfod i’w gynnig!”

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, “Unwaith eto eleni, rydyn ni’n annog ein ymwelwyr i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd Maes yr Eisteddfod. 

“Rydyn ni’n falch o’r cydweithio agos gyda Thrafnidiaeth Cymru, ac yn diolch iddyn nhw am y gwasanaethau ychwanegol sy’n cael eu cynnig er mwyn hwyluso profiad ein heisteddfodwyr.”

Bydd TrC hefyd yn bresennol ar y Maes ddydd Llun a dydd Mawrth (3 a 4 Awst) yn stondin Llywodraeth Cymru i sgwrsio ag ymwelwyr a chynorthwyo gyda chwestiynau teithio.

Am fwy o wybodaeth ewch i – Eisteddfod Cymru | Trafnidiaeth Cymru

 

You cannot copy any content of this page