Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin i Benderfynu ar Ddyfodol Ysgol Gymraeg Meidrim

Ar ôl blwyddyn o frwydr gan lywodraethwyr a’r gymuned leol, bydd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn trafod fore Llun nesaf (5/10) argymhelliad i gau Ysgol Gynradd Meidrim, sydd ar restr y llywodraeth o ysgolion gwledig y mae rhagdyb yn erbyn eu cau.

Wrth i agenda’r cyfarfod Cabinet ymddangos ddoe ar wefan y Cyngor, mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi datgan ei bod yn debygol fod y penderfyniad wedi’i gymryd eisoes mewn cyfarfod tu ôl i ddrysau caeedig er na fydd y penderfyniad yn ffurfiol tan ar ôl cyfarfod cyhoeddus ffurfiol y Cabinet fore Llun nesaf.

Ar ran Rhanbarth Sir Gâr o’r Gymdeithas, dywed Ffred Ffransis:

“Siom o’r mwyaf yw deall y bydd y Cabinet yn dewis gwrthod llwybr cydweithio â’r llywodraethwyr a’r gymuned leol sydd wedi gweithio mor galed i wella safonau addysg ac i gynhyrchu cynllun cyffrous i greu hyb cymunedol ochr yn ochr â’r ysgol. Gallai’r cynllun hwn fod yn lasbrint ar gyfer cymunedau gwledig eraill gyda gwasanaethau fel gofal plant, hyfforddiant a gweithgareddau cymunedol oll trwy gyfrwng y Gymraeg ar yr un safle â’r ysgol, ac yn cynhyrchu incwm ychwanegol. Mewn dogfen fanwl, gwnaeth y llywodraethwyr adnabod ffynonellau cyllid annibynnol i ddatblygu’r hyb, a gofynnwyd am gydweithrediad yr Awdurdod Lleol.

“Ond ymddengys fod y Cabinet wedi dewis yn hytrach y llwybr hawdd o gau ysgol, gan weld cymunedau ac ysgolion gwledig Cymraeg fel problemau yn hytrach na fel asedau i’w trysori. Hyd yn oed yn fwy siomedig yw’r ffaith nad yw’r cynghorwyr wedi cytuno i siarad yn uniongyrchol yn ystod y flwyddyn gyda rhieni plant y mae bwriad i darfu ar eu haddysg na chyda chymuned y mae bwriad i gau eu hysgol am byth. Yn lle hynny, dibynwyd ar adroddiadau’n crynhoi’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt gan y llywodraethwyr a’r gymuned. Ac mae’r Cabinet yn bwriadu tanseilio’r ysgol a’r gymuned am arbediad honedig o £13,000 wedi tynnu costau trafnidiaeth ychwanegol.”

Ar ben hyn, dywed Mr Ffransis:

“Yn waeth fyth, deallwn fod penderfyniadau mor ddifrifol â hwn yn cael eu cymryd mewn cyfarfodydd tu ôl i ddrysau caeedig a elwir yn gyfarfodydd ‘Rhag-Gabinet’. Bydd holl aelodau’r Cabinet a’r swyddogion wedi cyfarfod yr wythnos ddiwethaf i ddod i benderfyniad, heb fod aelodau’r cyhoedd yn bresennol, na gohebwyr nac hyd yn oed cofnodion cyhoeddus. Rhoddir diwedd am byth ar ysgol a chymuned wledig Gymraeg mewn cyfarfod dirgel fel hwn, a dim ond camau gwag ffurfiol fydd ar ôl fore Llun nesaf. Dywed swyddogion fod proses o’r fath yn gyfreithlon, ond yn sicr nid yw’n ddemocrataidd nac yn rhoi llais gwirioneddol i’r bobl.”

Oni bai bod newid meddwl yn y cyfamser, cyflwynir yr argymhelliad i gau Ysgol Meidrim i gyfarfod llawn o holl aelodau Cyngor Sir Caerfyrddin i’w gynnal ar 14 Hydref, lle cymerir penderfyniad terfynol.

Neges derfynol Cymdeithas yr Iaith i’r cynghorwyr fydd:

“Yn ôl papur y Cyngor ei hun, buasai gan Ysgol Meidrim bron 40 o blant erbyn Ionawr 2028, ac yn ganolfan Gymraeg ar y ffin iaith. Os caiff ysgol fel Meidrim ei chau, bydd 20 o ysgolion gwledig Cymraeg eraill dan fygythiad yn syth, a therfyn ar ein cymunedau gwledig Cymraeg.”

You cannot copy any content of this page