Croeso i Sir Gâr

 

Mae Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dechrau o’r diwedd, ac mae Sir Gâr gyfan yn falch iawn o gael croesawu plant, pobl ifanc, teuluoedd a ffrindiau o bob cwr o Gymru i Lanymddyfri.

 

I gael gwybodaeth am Eisteddfod yr Urdd, tref Llanymddyfri a sut i gyrraedd, ewch i’n tudalen Eisteddfod yr Urdd.

 

Heddiw, dydd Llun 29 Mai, yw diwrnod cyntaf yr ŵyl ieuenctid wythnos o hyd, ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn hynod hapus fod presenoldeb amlwg gan y Cyngor ar Faes yr Eisteddfod.

 

Mae gennym amserlen lawn o ddigwyddiadau yn ein stondin ni drwy’r wythnos.

 

Heddiw, dydd Llun, bydd gennym ystod o ddigwyddiadau addas ar gyfer pob oedran, gan gynnwys dosbarth Ffitrwydd Byw gan Actif Sir Gâr, sioe ryngweithiol i blant gyda Mewn Cymeriad, a pherfformiad ieuenctid gan rai o ysgolion Sir Gâr.

 

100% Sir Gâr a chefnogi busnesau lleol fydd thema’r dydd ar gyfer dydd Mawrth. Bydd ein stondin hefyd yn canolbwyntio ar y gwahanol brosiectau a mentrau ledled y sir sy’n cael eu cefnogi gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Gall ymwelwyr hefyd ddysgu mwy am ddatblygiad Pentre Awel yn Llynnoedd Delta yn Llanelli, sy’n ceisio gwella iechyd a llesiant pobl ar draws y rhanbarth.

 

Ddydd Mercher bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn hyrwyddo ei Brosiect Carbon Zero Sir Gâr, sy’n hoelio sylw ar ein gweledigaeth i fod yn awdurdod sero net ac ar y camau gall pawb eu cymryd o ddydd i ddydd i helpu i daclo’r hyn sy’n achosi newid yn yr hinsawdd.

 

Ddydd Iau byddwn yn lansio ein strategaeth uchelgeisiol ar gyfer Hyrwyddo’r Gymraeg, sy’n pennu cynlluniau’r Cyngor i gymryd camau cadarn a hyderus i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir a chynnal balchder, defnydd, a hyder ein trigolion yn y Gymraeg.

 

Bydd y digwyddiad lansio yn cael ei gadeirio gan Meri Huws, cyn-gomisiynydd y Gymraeg a Chadeirydd Fforwm Strategol y Gymraeg Sir Gaerfyrddin.

 

Gweithio yn Sir Gaerfyrddin yw thema dydd Gwener , pryd bydd pwyslais penodol ar brosiect ‘Llwyddo’n Lleol’, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Arloesi Arfor 2050. Nod rhaglen Arfor yw darparu amryw ymyraethau strategol er mwyn hyrwyddo entrepreneuriaeth, twf busnes, a gwytnwch cymunedol, gan ffocysu ar y Gymraeg yn Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Wrth i Eisteddfod yr Urdd ddirwyn i ben ddydd Sadwrn, mae Sir Gâr yn eich gwahodd yn ôl i fwynhau eich gwyliau haf yn ein sir. Twristiaeth yn Sir Gâr fydd thema’r dydd ac mae gennym ddigon i’w gynnig i’r sawl sydd ar eu gwyliau, boed yn draethau, amgueddfeydd, llwybrau beicio a cherdded, neu’n theatrau, parciau gwledig a marchnadoedd, i enwi ond ychydig bethau.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Croeso cynnes i Sir Gâr! Anrhydedd yw cael cynnal Eisteddfod yr Urdd eleni yn Llanymddyfri, a chroesawu plant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru wrth iddyn nhw gymryd rhan yn yr ŵyl unigryw ac arbennig hon.

 

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymfalchïo’n fawr yn ein cyfraniad ariannol a diwylliannol at Eisteddfod yr Urdd 2023. Rwy’n edrych ymlaen at yr wythnos sydd i ddod ac yn annog plant, pobl ifanc, teuluoedd a ffrindiau o bob ardal yn Sir Gâr i achub ar y cyfle i ymweld â’r Eisteddfod yn Llanymddyfri yr wythnos hon.

 

“Rwy’n blês iawn fod mynediad am ddim i deuluoedd sydd ar incwm isel, gan y bydd hynny’n rhoi cyfle i bob teulu a phlentyn yn Sir Gâr fwynhau’r profiad sydd gan Eisteddfod yr Urdd i’w gynnig.”

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page