Newyddion Dwr Cymru

Hoffem ymddiheuro am yr anghyfleustra parhaus y mae cwsmeriaid yn yr ardal yn ei brofi oherwydd dim dŵr neu pwysedd dŵr isel.

Gwnaethom gynnydd da neithiwr a thrwy heddiw gyda chanfod a thrwsio dros 100 o ollyngiadau a ddigwyddodd yn dilyn y tywydd rhewllyd ac yna’r dadrhewi ac rydym bellach wedi adfer cyflenwadau i tua 1,500 eiddo. Mae hyn yn cynnwys llefydd fel Llansteffan. Disgwyliwn i weddill y cyflenwadau yr effeithir arnynt ddychwelyd dros nos. Dylem, fodd bynnag, dynnu sylw at y ffaith, wrth i’r lefelau yn y system ddychwelyd i normal, bod risg y bydd ‘cloeon’ aer yn datblygu a allai aflonyddu ar gyflenwadau dros dro. Bydd ein timau yn gweithio drwy’r nos a thrwy yfory yn clirio’r cloeon hyn.

Rydym hefyd wedi ailgyflenwi’r gorsafoedd dŵr potel yn Llandysul a Chastell Newydd Emlyn a hefyd wedi dosbarthu tanciau dŵr sefydlog yn y lleoliadau hyn. Rydym hefyd wedi gosod dŵr potel a thanc dŵr sefydlog ym Marchnad Gwartheg Aberteifi. Mae’r tanciau’n cynnwys dŵr glân ond bydd rhaid i gwsmeriaid ferwi’r dŵr cyn ei ddefnyddio at ddibenion yfed a hefyd dod â chynhwysydd addas i gludo’r dŵr adref.

Rydym hefyd yn parhau i gynhyrchu mwy o ddŵr yn ein gweithfeydd trin dŵr i gynyddu faint o ddŵr sy’n mynd i mewn i’r system a hefyd yn defnyddio ein fflyd o danceri dŵr i roi dŵr yn uniongyrchol yn y system. Gall cwsmeriaid hefyd helpu trwy wirio bod unrhyw dapiau nad ydynt yn cael eu defnyddio wedi’u diffodd ac os oes ganddynt gyflenwad dŵr, yna defnyddiwch y dŵr sydd ei angen arnynt yn unig. Hefyd os call cwsmeriaid amaethyddol hefyd gwirio nad oes unrhyw dŵr yn gollwng ar eu pibellau allanol. Bydd hyn i gyd yn helpu’r system i ail-lenwi.

Hoffem unwaith eto ymddiheuro i gwsmeriaid a diolch iddynt am eu hamynedd parhaus.


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page