Trigolion Talgarreg yn herio Hanner Marathon Caerdydd er budd elusen

Mae criw o ddeg ar hugain o ffrindiau a chymdogion o bentref bach Talgarreg yng Ngheredigion yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd 2024 gyda’i gilydd i godi arian at elusen.

Bydd y criw – Criw Talgarreg Hanner Marathon Caerdydd – yn rhedeg yr hanner marathon ar gyfer yr Uned Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili; Maggie’s, y Ganolfan Ganser yn Ysbyty Singleton, ac Aren Cymru.

Mae Allana Silvestri-Jones, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd gyda’r Tîm Nyrsio Ysgol yng Ngheredigion, yn un o aelodau Criw Talgarreg. Dywedodd Allana: “Mae criw ohonom sydd â chysylltiad agos â phentref Talgarreg wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ar 6 Hydref 2024.

“Rwy’n gweithio i Hywel Dda fel gweithiwr cymorth iechyd, mae eraill yn athrawon, myfyrwyr, ffermwyr a nyrsys. Mae’n gymysgedd go iawn o bobl. Bydd y plant yn y grŵp yn rhedeg Ras y Plant ar y dydd Sadwrn.

“Rydym yn dymuno codi arian ar gyfer tair elusen sy’n agos iawn at ein calonnau gan fod gennym ffrindiau agos sydd wedi elwa o’u cymorth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Rydym yn gobeithio codi £1500.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am ddymuno pob lwc i Criw Talgarreg gyda’u hyfforddiant a gyda’r Hanner Marathon ym mis Hydref.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gefnogi ymgyrch codi arian Criw Talgarreg Hanner Marathon Caerdydd, ewch i: Crowdfunding to help three charities that are very close to our hearts / Codi arian tuag at dair elusen sydd yn agos iawn at ein calonnau. on JustGiving

You cannot copy any content of this page