ITV Cymru yn cyhoeddi apwyntiad dyn o Gorslas fel Golygydd Rhaglenni

MAE ITV Cymru Wales wedi cyhoeddi heddiw mai Owain Phillips fydd ei
Olygydd Rhaglenni a Digidol newydd.

Magwyd Owain yng Ngorslas yng nghwm Gwendraeth cyn iddo raddio o adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Dechreuodd ei yrfa gydag ITV yn 2009 gan weithio ar raglenni fel _Hacio_ ac Y Byd ar
Bedwar i S4C. Yn 2012 ymunodd â thîm gwleidyddiaeth ITV Cymru Wales
ac ers hynny mae wedi bod yn rhoi sylw i ddigwyddiadau yn y Senedd, San
Steffan a thu hwnt. Mae wedi bod yn wyneb cyson i wylwyr Cymru ar
newyddion_Wales at Six ers dros ddegawd, gan adrodd ar nifer o
etholiadau, Brexit a phandemig Covid 19. Bu hefyd yn gynhyrchydd cyfresi
ar gyfer sawl rhifyn o Y Byd yn ei Le, a hefyd gynhyrchwyd gan ITV ar
gyfer S4C.

Yn 2019 mi enillodd wobr Newyddiadurwr Gwleidyddol y Flwyddyn Cymru am ei waith yn y maes.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Owain Phillips:

“Rwy’n falch iawn o fod yn ymgymryd â swydd y golygydd ar adeg mor
bwysig. Mae’r pandemig wedi dangos y rôl annatod sydd gan
newyddiaduraeth o ansawdd a diduedd i’w chwarae yng Nghymru ac rwy’n
gobeithio adeiladu ar y seiliau cadarn hynny. Mae tîm cryf ac amrywiol
yn ei le a byddwn yn gobeithio parhau i ddarparu gwasanaeth newyddion o
safon sy’n deilwng o ddarlledwr cenedlaethol.”_

Dywedodd Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV Cymru Wales:

“Rwy’n falch iawn o gael Owain yn cymryd y rôl hanfodol hon yn ITV
Cymru Wales. Bydd ei gyfoeth o brofiad a’i angerdd am newyddiaduraeth
yng Nghymru yn amhrisiadwy i ni, ar adeg pan mae ein cynulleidfaoedd
digidol yn tyfu yn gyflym ar gyfer newyddion a materion cyfoes Cymreig.

Wrth i ni ddod allan o argyfwng Covid 19, mae’r awydd am newyddion
diduedd a dibynadwy am Gymru yn bwysicach nag erioed ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Owain yn ei rôl newydd wrth iddo ddod â chyfeiriad newydd i’n tîm, rhaglenni a gwasanaeth newyddion.”

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: