Cyfraniad i helpu banciau bwyd cymunedol

Mae banciau bwyd Ceredigion yn parhau i weld cynnydd mawr yn y galw a dim ond bron yn gallu ymdopi oherwydd haelioni rhoddion y cyhoedd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn rhoi cyfraniadau bwyd, ond mae rhai hefyd yn rhoi arian.

 

Mae’r rhoddion ariannol yn helpu i ychwanegu at gyflenwadau, yn enwedig cyflenwadau o gynnyrch ffres a pharseli bwyd. Mae hefyd angen arian i dalu am gostau tanwydd – er mwyn gwresogi adeiladau ac ar gyfer cerbydau, sy’n angenrheidiol wrth gasglu, ac weithiau dosbarthu, parseli bwyd.

 

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi gallu cyfrannu at y gwaith da hwn trwy ddosbarthu £30,000 o Gronfa Atal Digartrefedd Dewisol (a ddarperir gan Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol). Mae hyblygrwydd y cyllid a roddir i Awdurdodau Lleol wedi galluogi’r Cyngor i ddarparu cyfraniad ariannol at y banciau bwyd a sefydliadau eraill sy’n darparu prydau post am brisiau rhad neu am ddim yn y gymuned.

 

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’r gronfa hon yn bennaf i gefnogi pobl i allu talu eu gwariant cartref sylfaenol a lleihau’r risg o fynd yn ddigartref. Mae cefnogi banciau bwyd yn ffordd arall o gwtogi ar y biliau dyddiol mae pobl yn eu hwynebu yn y cyfnod anodd iawn hwn. Rwy’n falch iawn gweld yr arian hwn yn mynd at achos mor dda.”

 

Dywedodd cynrychiolydd ar ran Banc Bwyd Llambed: “Ar ran y nifer o bobl a theuluoedd sy’n derbyn cymorth, hoffai Banc Bwyd Llambed ddweud diolch. Mae yna alwadau cynyddol am gymorth gan bobl ar hyn o bryd. O ganlyniad i’ch haelioni chi ac eraill rydym yn gallu darparu cymorth ychwanegol i bobl yn yr ardal.”

 

Er eu bod yn gallu rheoli’r galwadau am fwyd, mae Banciau Bwyd yn nodi y gallent fanteisio ar ragor o wirfoddolwyr i helpu i sortio a dosbarthu’r bwyd. Os gallwch chi helpu mewn unrhyw ffordd, mae rhestr o’r holl fanciau bwyd yng Ngheredigion ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/gwybodaeth-ac-adnoddau-ar-gyfer-y-gymuned/banciau-bwyd-ceredigion/

Unlike  other news outlets, Carmarthenshire News Online does not receive massive advertising revenue or large grants. We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: