Sero Net: Beth yw’r cyfleoedd a’r heriau i fusnesau yng Nghanolbarth Cymru?

Mae Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys yn parhau i gydweithio â phartneriaid yng Nghanolbarth Cymru ar ystod o faterion strategol sy’n helpu i drawsnewid a thyfu’r economi ranbarthol. O gyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac arwain ar yr agenda Sgiliau, mae gwaith Tyfu Canolbarth Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth.

Maes allweddol i drigolion a busnesau Canolbarth Cymru yw Ynni. Gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gyda phartneriaid i ddatblygu Strategaeth Ynni Ranbarthol a’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Ynni Ardaloedd Lleol, mae angen cryfhau ymhellach y dystiolaeth o’n hanghenion a’n cyfleoedd i wneud yr achos dros fuddsoddiad pellach.

Mae Tyfu Canolbarth Cymru ar hyn o bryd yn gofyn am ymatebion gan fusnesau yng Nghanolbarth Cymru i ddeall y cyfleoedd a’r heriau sy’n eu hwynebu er mwyn lleihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr a sut y gellir eu cefnogi ar y daith i sero net.

Bydd yr arolwg, sy’n rhedeg tan 20fed Medi, yn helpu i:

• Fod yn sail i ddatblygiad galwadau ariannu yn y dyfodol

• Datblygu’r sylfaen dystiolaeth i amlygu’r angen am fuddsoddi yn y grid yng Nghanolbarth Cymru

• Bod yn sail i ddatblygiad gweithdy Clwstwr Busnes yn y dyfodol ar ddatgarboneiddio ac ynni

• Cefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Ynni a Chynllun Gweithredu Ynni Canolbarth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: “Rydym yn annog holl fusnesau Canolbarth Cymru i gymryd rhan yn yr arolwg hwn, fel y gellir gwneud y cymorth a’r buddsoddiad cywir yn ein rhanbarth ar ein taith i Sero Net, taith y mae angen i ni gydweithio i’w chyflawni.”

Gall busnesau gwblhau’r arolwg drwy’r ddolen ganlynol: https://forms.office.com/e/Mk4Siptgxj

Mae gan wefan Tyfu Canolbarth Cymru fwy o wybodaeth am sut mae ganddi ran allweddol i’w chwarae wrth arwain a chefnogi rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth i gyflymu’r pontio i Sero Net: https://growingwelsh.powys1-prd.gosshosted.com/Ynni+SeroNet


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page