Lansio ymgynghoriad ar wella gwasanaethau gofal cymdeithasol

MAE’R Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi lansio ymgynghoriad ar wella profiadau nifer o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cynhelir yr ymgynghoriad tan 7 Tachwedd 2022

Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar ddeddfwriaeth arfaethedig i gefnogi’r ymrwymiad i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal. Mae hyn yn elfen allweddol o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae’r cynigion yn canolbwyntio, i ddechrau, ar ddarpariaeth gofal preswyl preifat i blant, ochr yn ochr â gofal maeth yn y sector annibynnol.

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn rhannu gweledigaeth y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn y dyfodol yn cael ei ddarparu gan sefydliadau’r sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu sefydliadau nid-er-elw ac y bydd arian cyhoeddus sy’n cael ei fuddsoddi yng ngofal plant sy’n derbyn gofal yn cael ei wario ar sicrhau profiadau a chanlyniadau gwell.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“Ein huchelgais yw ailgynllunio sut rydym yn gofalu am blant a phobl ifanc ac mae dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal yn rhan allweddol o hyn. Mae plant wth wraidd popeth a wnawn, ac maent wedi dweud wrthym nad ydynt am gael gofal gan sefydliadau preifat sy’n gwneud elw o’u profiad o fod mewn gofal. Ni ddylid gwneud elw o ofalu am blant sy’n wynebu heriau yn eu bywydau.”

Meddai Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian:

“Rwy’n credu bod dileu elw o ofal plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn hanfodol i wella bywydau rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at weld fframwaith newydd ar waith a fydd yn dileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, fel rhan o’n cred y dylid, pan fo’n bosib’, wrthdroi’r duedd yn y sector cyhoeddus o roi gwaith allan.”

Mae meysydd eraill dan sylw yn yr ymgynghoriad yn cynnwys:

Galluogi mynediad at Daliadau Uniongyrchol i oedolion sy’n gymwys ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG, i’w galluogi i benderfynu sut, pryd a chan bwy y mae eu hanghenion am ofal yn cael eu diwallu;

Ystyried a ddylid estyn y dyletswyddau i hysbysu am blant ac oedolion sy’n wynebu risg o niwed, o gael eu cam-drin, neu eu hesgeuluso i fod yn berthnasol yn uniongyrchol i unigolion o fewn cyrff perthnasol;

Cynigion i ehangu’r diffiniad o ‘weithiwr gofal cymdeithasol’ i gynnwys pob gweithiwr gofal plant a chwarae, i atgyfnerthu cymorth Gofal Cymdeithasol Cymru i’r sector; a hefyd

Newidiadau i wella sut mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi ac yn rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol a sut mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn rheoleiddio ac yn arolygu gwasanaethau.

Aeth Ms Morgan yn ei blaen i ddweud:

“Rwy’n benderfynol ein bod yn parhau i wella ansawdd profiadau pawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi sut y bydd ein cynigion yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ehangach ar gyfer y gofal a’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd, plant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cryfhau llais a rheolaeth pobl anabl a difrifol sâl, â’u gofalwyr, ymhellach, gan gefnogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth. Edrychaf ymlaen at ymwneud â phawb sydd â diddordeb mewn parhau i wella ein system iechyd a gofal cymdeithasol.”

Dywedodd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney:

“Rydym am wrando ar leisiau’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn siapio ein deddfwriaeth a’n gwasanaethau o amgylch eu hanghenion gofal a chymorth. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn ein helpu i gryfhau gofal a chymorth, gan sicrhau bod lleisiau ein dinasyddion, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a’u gofalwyr, yn cael eu clywed.

“Drwy gydweithio gallwn wella ein system iechyd a gofal cymdeithasol i bawb nawr ac yn y dyfodol a chefnogi pobl yn well i gynnal eu hannibyniaeth.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page