Grŵp beiciau modur yn apelio am wyau Pasg a rhoddion ar gyfer taith wyau Pasg elusennol

Mae Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos a Dollies yn apelio am wyau Pasg a rhoddion ar gyfer eu taith wyau Pasg fis Ebrill eleni.

 

Cynhelir y daith wyau Pasg ar ddydd Sul 2 Ebrill.

 

Mae’r daith yn cefnogi gwasanaethau plant ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Gweithredu dros Blant.

 

Mae’r daith yn ddigwyddiad poblogaidd sy’n gweld cannoedd o feicwyr modur yn casglu ac yn dosbarthu wyau Pasg.

 

Bydd y ras yn cychwyn am 1:00pm ar 2 Ebrill ym maes parcio The Commons ym Mhenfro. Bydd y grŵp yn teithio trwy lawer o drefi de Sir Benfro ac yn gorffen y daith yn y ganolfan gynadledda ger Ysbyty Llwynhelyg lle byddan nhw’n dosbarthu’r teganau a’r rhoddion i staff.

 

Dywedodd Mark James, aelod o Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos: “Dyma’r 18fed flwyddyn i’r 3 Amigos a’r Dollies fod yn cynnal y daith wyau Pasg.

 

“Rydym yn falch o allu helpu’r GIG a Gweithredu dros Blant. Nid yw dod â gwênn i blant Sir Benfro yn dod i ben adeg y Nadolig.”

 

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Unwaith eto mae Grŵp Beiciau Modur 3 Amigos a Dollies yn mynd gam ymhellach a thu hwnt i gefnogi gwasanaethau plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

“Roedd eu taith teganau enwog yn llwyddiant ysgubol adeg y Nadolig, daeth â hwyl i lawer o blant a gefnogir ar draws rhanbarth Hywel Dda. Ni allwn ddiolch digon iddynt am eu hamser, eu hymdrech a’u hymroddiad i godi arian. Os gallwch chi, cefnogwch y 3 Amigos y Pasg hwn!”

 

I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau a lleoliadau casglu, cysylltwch â Ness ar 07971 774893 neu Mark ar 07585 040206.

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page