“Peidiwch anwybyddu’r argyfwng iechyd rhagor” – Rhun ap Iorwerth AS

Heddiw (dydd Mercher 18 Ionawr), fydd Plaid Cymru yn galw ar y Senedd i ddatgan argyfwng iechyd yng Nghymru.

Mae un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros y gwasanaeth iechyd, mae’r cyfnodau aros am driniaeth yn uwch nag erioed, a gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn mynd ati i streicio dros gyflogau ac amodau gwaith.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,

“Nid yw hyn rhagor yn mater o adferiad rhag y pandemig yn unig – ac nid dyma’r achos ers peth amser. Mae angen cydnabod bod ein gwasanaeth iechyd mewn argyfwng. Mae angen i Gymru gael ei Llywodraeth i gamu i’r her a chynnig yr atebion sydd eu hangen ar gyfer y problemau hirsefydlog hyn.

“Rydym wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac Argyfwng Natur. O ystyried cyflwr presennol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, mae angen i Lywodraeth Cymru gyfaddef ei bod hi o dan bwysau difrifol i’r graddau y mae mewn argyfwng ar hyn o bryd.

“Byddai gwneud hynny’n achosi tri cham allweddol a chadarnhaol. Yn gyntaf, fe fydd yn helpu i ganolbwyntio meddyliau ar ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o fynd i’r afael â’r problemau sy’n ein hwynebu. Yn ail, fe fydd yn canolbwyntio’r holl bwerau gwario – waeth pa mor brin – ar y materion hynny sy’n bwysig, a does dim yn bwysicach ar hyn o bryd na datrys yr anghydfod am gyflogau. Ac yn olaf, fe fydd yn sicrhau golwg o’r newydd ar strwythurau a phrosesau’r llywodraeth i sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n ddigonol i ddelio â’r argyfwng hwn, yn yr un modd ag y gwnaed newidiadau yn dilyn datganiad yr Argyfwng Hinsawdd.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page