
Mae Jan Evans, Swyddog Gorfodi Sifil, wedi darganfod mai dysgu Cymraeg yw’r tocyn i lwyddiant.
Dechreuodd Jan, sy’n gweithio yn ardal Llanelli, ddysgu siarad Cymraeg yn wreiddiol ar gwrs Cymraeg i’r Teulu pan oedd yn gweithio yn Ysgol Saron, Rhydaman tua phum mlynedd yn ôl.
Roedd hi’n falch o’r cyfle i ymarfer ei Chymraeg gyda phlant yr ysgol ac roedd hi hefyd yn medru ymarfer ei Chymraeg gyda’i meibion yn y cartref.
Ers iddi ddechrau gweithio fel Swyddog Gorfodi Sifil, mae hi wedi bod yn mynychu dosbarth Mynediad 2 gyda’r Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin. Roedd angen medru siarad peth Cymraeg arni ar gyfer ei swydd newydd a bellach, mae’n gallu gofyn llawer o gwestiynau sy’n berthnasol i’w swydd er enghraifft ‘Oes bathodyn glas ‘da chi?’
Dywedodd Jan: “Mae dysgu Cymraeg yn gymaint o hwyl. Rwy’n edrych ymlaen at y wers bob wythnos. Mae’n ddosbarth cyfeillgar iawn ac mae’r tiwtor yn hyfryd. Ar y dechrau, rydych chi’n meddwl bod y profiad yn mynd i fod yn un sy’n codi ofn ond dyw e’ ddim o gwbl. Rydym ni gyd yn chwerthin ac yn cael hwyl”.
Mae gan Jan ychydig o gyngor defnyddiol i ddysgwyr newydd.
“Byddwn i’n dweud wrth bawb am ganolbwyntio yn y dosbarth a cheisio gwneud peth gwaith gartref. Y peth mwyaf pwysig i gofio yw dechrau pob sgwrs â ‘Dw i’n dysgu Cymraeg’. Cewch ymateb da iawn i hynny!”
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr aelod o’r bwrdd gweithredol dros addysg a gwasanaethau plant: “Mae’n dda clywed bod Jan yn cael gymaint o hwyl yn dysgu Cymraeg a’i bod hi eisoes yn gallu defnyddio’r hyn mae hi wedi’i ddysgu yn y gwaith.
“Byddwn yn annog pawb sydd eisiau dysgu Cymraeg i ddilyn ôl traed Jan ac i gofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau.”
I gofrestru ar gwrs, ewch i dysgucymraeg.cymru neu ffoniwch 01267 246862 am ragor o wybodaeth.