Cynnig deniadol i fanwerthwyr yn siopau newydd Llanelli

MAE cyfle arbennig i fanwerthwyr fanteisio ar ddwy uned siop newydd yng nghanol tref Llanelli, sydd yn cael eu cynnig gan Gyngor Sir Caerfyrddin am rent fforddiadwy.

Mae’r siopau gwag yn stryd Stepney, sef un o brif strydoedd siopa’r dref, newydd gael eu lansio ar ôl i’r Cyngor eu prynu a’u hadnewyddu fel rhan o’i gynllun Stryd Cyfleoedd, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru.

Mae’r eiddo sydd ar gael ar gyfradd gystadleuol, ynghyd â’r cyfraddau busnes is sy’n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru drwy gyfrwng ei gynllun rhyddhad ardrethi busnes, yn cynnig pecyn deniadol i’r rheini sy’n ystyried agor siop yn Llanelli.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rydym wedi prynu 15 eiddo a safle datblygu yn ystod y ddwy flynedd diwethaf fel rhan o’n cynlluniau i adfywio canol tref Llanelli.

“Wrth wneud hynny, mae gennym reolaeth dros fwy o safleoedd busnes sy’n caniatáu i ni osod lefel rhent fforddiadwy a fydd yn helpu busnesau newydd i sefydlu a pharhau eu hunain.

“Mae’r ddwy siop newydd yn cael eu marchnata ac mae lefel y rhent yn gystadleuol ar gyfer Llanelli. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gynnig deniadol i fusnesau sy’n medru cael effaith ar ganol y dref a’r economi leol.”

Er mwyn darganfod rhagor am yr unedau siop hyn ar stryd Stepney, ac eiddo eraill gan y Cyngor sydd ar gael i’w rhentu neu sydd ar werth, ewch i’r adain fusnes yn www.sirgar.llyw.cymru


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page