Disgyblion yn disgleirio ar gwrs i ysgolheigion ifanc

CRIW o ddisgyblion Ysgol Gyfun Emlyn yw’r cyntaf o blith disgyblion Sir Gaerfyrddin i raddio o’r Brilliant Club.

Aeth deuddeg o ddisgyblion Blwyddyn 8 a 9 i Brifysgol Bryste i dderbyn eu tystysgrifau graddio ar ôl cymryd rhan yn Rhaglen Ysgolheigion yr elusen enwog, The Brilliant Club.

Roedd y myfyrwyr wedi ymgymryd â phrosiect ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf ar ‘Ebola: y pandemig rhyngwladol nesaf?’.

Cafodd y disgyblion eu tiwtora gan fyfyriwr PhD o Brifysgol Abertawe ac maent wedi datblygu sgiliau astudio mewn cyd-destun academaidd ac wedi dysgu am effaith Ebola ar y gwledydd a gafodd eu taro’n uniongyrchol yn ogystal ag ar y gymuned ryngwladol ehangach. Gwnaethant ddefnyddio’r sgiliau hyn i lunio traethawd i safon a ddisgwylir gan fyfyrwyr Blwyddyn 12 sy’n astudio ar gyfer eu harholiadau uwch gyfrannol.

Cafodd y disgyblion a’u rhieni eu cyfarch gan lysgenhadon myfyrwyr o’r brifysgol a chawsant daith fer o amgylch y campws a chyflwyniad am fywyd myfyriwr israddedig mewn prifysgol nodedig fel Bryste. Roedd modd i rieni hefyd fynd i gyflwyniad am fywyd prifysgol i’w paratoi i gefnogi eu plant wrth iddynt wneud cais i brifysgol.

Dywedodd Pennaeth yr ysgol, Hugh Thomas: “Rydym yn falch iawn fod y myfyrwyr i gyd wedi cwblhau’r prosiect ac wedi llwyddo i raddio. Efallai bod rhai blynyddoedd hyd nes y bydd y deuddeg myfyriwr hyn mewn prifysgol ond maen nhw eisoes ar y llwybr i lwyddiant.

“Ysgol Gyfun Emlyn yw’r ysgol gyntaf yn Sir Gaerfyrddin i gynnig carfan o fyfyrwyr i gymryd rhan yn y rhaglen hon ac rydym yn edrych ymlaen at weld ein carfan nesaf yn cymryd rhan yn ystod tymor y gwanwyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Hoffem longyfarch y disgyblion am wneud mor dda a llongyfarch Ysgol Gyfun Emlyn am gynnig y cyfle hwn iddyn nhw. Cafodd y deuddeg gyfle gwych i ddatblygu eu sgiliau, i elwa ar diwtora arbenigol ac i ddysgu rhagor am gyfleoedd yn y brifysgol yn y dyfodol.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page