Parciau Gwledig Sir Gâr yn ennill statws y Faner Werdd

MAE Parc Gwledig Llyn Llech Owain wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd am y tro cyntaf erioed, tra bod Parc Gwledig Pen-bre hefyd wedi cadw ei statws Baner Werdd – sef y marc rhyngwladol i ddynodi parc neu fan gwyrdd o safon uchel.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus, yr elusen amgylcheddol, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Bu arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol yn gwirfoddoli eu hamser ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli’r amgylchedd a chynnwys y gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Rydym yn ffodus iawn yn Sir Gaerfyrddin bod gennym ddau Barc Gwledig hardd sy’n deilwng o Wobr y Faner Werdd.

Tra bod Parc Gwledig Pen-bre wedi hen sefydlu ei statws fel un o fannau gwyrdd gorau Cymru, mae’r cyllid o £185,000 a sicrhawyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, o gynllun Parc Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru, wedi cael ei fuddsoddi ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain i ddarparu cyfleusterau ardderchog i ymwelwyr.”

Gall pobl sy’n ymweld â Llyn Llech Owain yn awr fwynhau llwybr archwilio realiti estynedig sy’n  rhan o gyfres o welliannau yn y parc, gan gynnwys canolfannau ymwelwyr ac addysg, lle chwarae wedi’i ailwampio i blant y blynyddoedd cynnar, gwaith tirlunio a gwell llwybrau troed, ynghyd â Hwb Gwaith Llesiant i bobl weithio a chynnal cyfarfodydd yn yr ardal heddychlon.”

Meddai Julie James, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd:

“Mae gan ein mannau gwyrdd lleol rôl hanfodol i’w chwarae drwy ein cysylltu â byd natur. Mae’r gwobrau hyn yn profi bod parciau Cymru ac ardaloedd tebyg yn gwneud gwaith arbennig wrth ddarparu llefydd o safon i ymlacio ynddynt a’u mwynhau.

“Mae’r safon sy’n ofynnol er mwyn ennill statws y Faner Werdd yn uchel iawn felly hoffwn longyfarch yr holl safleoedd a gydnabyddir am ddarparu cyfleusterau ardderchog, drwy gydol y flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

“Mae’n wych gweld ein bod yn dal i fod â thros draean o safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU yng Nghymru – yn enwedig gan fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi dysgu pob un ohonom am bwysigrwydd natur a mannau gwyrdd ar ein llesiant meddyliol a chorfforol.”

Dywedodd Lucy Prisk, Cydgysylltydd y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru’n Daclus:

“Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled y staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau ardderchog yn y safleoedd hyn.”

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: