Plaid Cymru yn galw am gefnogaeth estynedig i Eisteddfod

AR drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron – a’r gyntaf i gael ei chynnal am dair blynedd – mae Plaid Cymru wedi galw heddiw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ei chefnogaeth i’r ŵyl er mwyn sicrhau ei llwyddiant ir dyfodol.

Tra’n croesawu’r cyllid a ddarparwyd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn ystod pandemig Covid-19 a hefyd y cyllid i gynnig 15,000 o docynnau am ddim, mae llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant a’r Gymraeg, Heledd Fychan AS yn credu y dylid darparu mwy o gefnogaeth dros y blynyddoedd nesaf i alluogi’r Eisteddfod Genedlaethol i barhau i esblygu, i hyrwyddo’i hun yn well i gynulleidfaoedd rhyngwladol, a hefyd i ehangu’r ddarpariaeth o docynnau rhad ac am ddim i bobl o bob oed er mwyn i fwy allu cymryd rhan a mwynhau’r hyn sydd gan yr Eisteddfod i’w gynnig.

Meddai Heledd Fychan AS, Llefarydd drops Ddiwylliant a’r Gymraeg:

“Bydd y creadigrwydd a’r arloesedd a feithrinir gan ein Eisteddfodau yn hollbwysig o ran llwyddiant Cymru yn y dyfodol”

Gan gyfeirio at lwyddiant y polisi mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd yn gynharach eleni, ac effaith barhaus yr argyfwng costau byw, dywedodd Ms Fychan ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw cost yn rhwystr i unrhyw un sy’n byw yn ardal yr Eisteddfod rhag gallu mwynhau arlwy’r Maes. Cred bod hyn yn arbennig o bwysig o ystyried pa mor hanfodol yw codi arian yn lleol i sicrhau bod yr Eisteddfod yn digwydd o flwyddyn i flwyddyn.

Dywedodd Heledd Fychan:

“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd yn chwarae rhan allweddol o ran hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’n diwylliant i bobl o bob oed a chefndir, boed yn siaradwyr iaith gyntaf, yn ddysgwyr Cymraeg neu ddim yn siarad Cymraeg.

“Wrth deithio i wahanol rannau o Gymru bob blwyddyn, mae’nt yn sefydliadau gwirioneddol genedlaethol ac yn hanfodol o ran sicrhau parhad y Gymraeg fel iaith fyw a bywiog.

“Bydd y creadigrwydd a’r arloesedd a feithrinir ganddynt yn hollbwysig o ran llwyddiant Cymru yn y dyfodol, a dyna pam rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ei chefnogaeth i’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn sicrhau eu hyfywedd yn y dyfodol. Rhaid i’r Llywodraeth hefyd wneud mwy i wireddu’r potensial drwy hyrwyddo’n Eisteddfodau a’n diwylliant unigryw i gynulleidfaoedd rhyngwladol.

“Mae angen i ni hefyd sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu fforddio mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol drwy ehangu’r ddarpariaeth o docynnau am ddim. Drwy ariannu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd yn gynharach eleni, fe wnaeth Llywodraeth Cymru sicrhau bod mwy o bobl nag erioed o’r blaen wedi gallu mwynhau’r hyn oedd ar gael. Dylent wneud yr un peth ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol fel nad yw cost yn rhwystr i unrhyw un sy’n byw yn yr ardal allu mynychu.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o drefnu’r Eisteddfod a chodi arian yn lleol. Bydd yn wych bod yn ôl ar y Maes ac rwy’n siŵr y bydd pob ymwelydd yn mwynhau ac yn cael croeso mawr gan bobl Ceredigion.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page