Ail gyflwyno gwisgo gorchuddion wyneb yn Ysbyty Glangwili

MAE Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau bod yn rhaid i holi staff ac ymwelwyr Ysbyty Glangwili wisgo goruchoddion wyneb staff (oni bai eu bod wedi’u heithrio) ar unwaith oherwydd bod COVID-19 yn y gymuned yn cynyddu.

Mae hyn yn dilyn y penderfyniad a wnaed yn gynharach yr wythnos hon i
ail gyflwyno y cyfyngiadau ar wisgo gorchuddion wyneb ac ymweld yn
Ysbyty Llwynhelyg. Bydd ymweliadau’n parhau yn gyffredinol yn Ysbyty
Glangwili yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o niferoedd achosion ond mae
cyfyngiadau ward lleol mewn lle felly cysylltwch â’r ward i drefnu eich
ymweliad ymlaen llaw.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Nid yw’r pandemig wedi diflannu, ac rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ac ymdrechion ein cymuned i
atal y lledaeniad, yn enwedig o amgylch pobl sy’n fwy agored i niwed.

“Bydd y mesurau hyn yn cael eu hadolygu’n barhaus, a chyn gynted ag y
bydd yn ddiogel gwneud hynny, byddwn yn lleddfu’r cyfyngiadau hyn.”

Mae’r bwrdd iechyd yn pwysleisio pwysigrwydd parhaus yr ymddygiadau y gwyddys eu bod yn lleihau’r achosion o drosglwyddo COVID-19 a chlefydauheintus eraill, a’r gofynion gwahanol sydd ar waith mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Ychwanegodd Mandy:

“Hunan ynysu os oes gennym ni symptomau COVID-19, neu
glefydau heintus eraill, yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i
atal lledaeniad a thorri’r gadwyn drosglwyddo.

“Rydym yn annog yn gryf unrhyw un yn ein hardal sydd â’r symptomau
clasurol, neu sy’n amau bod ganddyn nhw COVID-19 i hunan ynysu a chymryd prawf LFD. Os yw’n bositif, rydym yn annog pobl i barhau â’r un
canllawiau ynysu ag sydd wedi bod ar waith – bydd hyn yn eich helpu i
orffwys a gwella ac amddiffyn eraill rhag y risg o drosglwyddo.”

Mae’r mesurau canlynol yn parhau ar waith ar saflau Ysbyty Llwynhelyg
(diweddarwyd 1PM, dydd Gwener 8 Gorffennaf 2022):

Holl staff ac ymwelwyr ag Ysbyty Llwynhelyg i wisgo gorchudd wyneb (oni bai eu bod wedi’u heithrio);   

Mae ymweliadau â chleifion mewnol/wardiau yn cael eu gohirio, ac eithrio ymweliadau diwedd oes ac unrhyw ymweliadau yr ystirir eu bod yn angenrheidiol trwy gytundeb â phrif nyrs y ward;

Gofynnir i bobl sy’n mynychu apwyntiad claf allanol fynychu ar eu
pen eu hunain oni bai eu bod angen cymorth gofalwr/perthynas;

Profi holl gleifion mewnol pan gânt eu derbyn.

Nid yw ymweliadau mamolaeth wedi newid. Gall partner geni dynodedig
ymweld ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty yn ystod beichiogrwydd, trwy
gydol y cyfnod esgor ac ar ôl genedigaeth. Gall partner dynodedig
fynychu apwyntiadau cyn geni neu sganiau.

Yn gynharach yr wythnos hon, atgoffodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton bobl i ddilyn camau syml i amddiffyn eu hunain rhag y
risg o ddal COVID 19 megis cael eu brechu, gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau gorlawn dan do, achymryd prawf llif unffordd os oes  gennych symptomau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn argaeledd profion llif unffordd am
ddim i aelodau’r cyhoedd tan ddiwedd mis Gorffennaf.

Os ydych chi, neu rywun rydych yn gofalu amdano ddim ar-lein, gallwch
ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd
ffonio 18001 119).

Yr wythnos nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei strategaeth
frechu gyda manylion y dos atgyfnerthu nesaf yn yr hydref.

Dywedodd Syr Frank:

“Y brechlyn yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hun ac eraill rhag
coronafeirws. Er nad yw’r brechlyn yn atal trosglwyddo’n
llwyr, mae’n cynnig amddiffyniad rhag salwch difrifol ac yn lleihau’r
risg o orfod mynd i’r ysbyty.

“Gallwch barhau i gael y brechlyn os nad ydych wedi cael eich cwrs
llawn, neu os oeddech yn rhy sâl i gael eich dos atgyfnerthu yn y
gwanwyn a byddwn yn annog rhieni i feddwl am gael y brechlyn ar gyfer eu plant dros fisoedd yr haf i helpu i leihau unrhyw amhariad i’w haddysg
yn ystod tymhorau’r hydref a’r gaeaf.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page