Herio’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru dros ffioedd dysgu

Challenging Labour: Simon Thomas AM/AC

Heriodd Plaid Cymru’r Llywodraeth Lafur i gynnal pleidlais ar gynyddu ffioedd dysgu yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams, yr unig AC Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad Cenedlaethol a’r Llywodraeth Lafur, wrth siambr y Senedd ym Mis Gorffennaf ei bod yn bwriadu codi’r ffioedd dysgu yng Nghymru.

Cododd AC y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas y mater yn siambr y Senedd yr wythnos hon a galwodd ar y weinyddiaeth Llafur i gyflwyno dadl a gorfodi Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur  i bleidleisio ar godi ffioedd dysgu.

Dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas:

“Ar yr 11eg o Orffennaf, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad yn siambr y Senedd yn dweud ei bod yn bwriadu codi’r ffioedd dysgu yng Nghymru ac roedd hynny’n arwydd ei bod wedi perswadio’r Cabinet Llafur, wrth gwrs, i fabwysiadu polisi y Democratiaid Rhyddfrydol ar ffioedd dysgu.

“Pryd fydd Aelodau Cynulliad yn trafod a phleidleisio ar yr offerynnau statudol sydd am godi’r ffioedd dysgu yng Nghymru? Rwy’n edrych ymlaen i weld y Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn dragŵnio eu haelodau meinciau cefn i bleidleisio o blaid codi’r ffioedd dysgu yma pan fe wrthodwyd hynny  gyda chefnogaeth y DUP yn Nhŷ’r Cyffredin yn gynharach y mis hwn. Gadewch i ni weld os fedrwn ni adlewyrchu’r fuddugoliaeth honno yng Nghymru. A fydd gan Llafur y dewrder i ddod ag offerynnau statudol i’r Siambr hon fel ein bod ni gyd yn medru pleidleisio arno?”

“Mae’r cynnig o godi’r ffioedd dysgu yng Nghymru wedi ei gyflwyno gan aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth Lafur a dylai dichell y blaid hon o ran codi ffioedd dysgu fod yn destun cywilydd i’r Blaid Lafur ac nid rheswm i ddilyn ôl eu traed a chynyddu dyledion ffioedd.”

Ychwanegodd y Gweinidog Cysgodol ar Addysg Llŷr Gruffydd:

“Cymru yw’r unig le ble mae Llafur mewn grym, ond rydyn ni’n dal i ddisgwyl pleidlais ar ddyfodol ffioedd dysgu yma. Dywed ASau Llafur o Gymru yn y Tŷ Cyffredin eu bod yn erbyn unrhyw gynnydd ond dydyn nhw methu â dylanwadu eu penderfyniad.

“Onid ydy hi’n amser i roi’r un cyfle yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru?

“Brwydrodd Llafur ymgyrch etholiadol ym mis Mehefin ar yr addewid o sgrapio ffioedd dysgu, ond eto, mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn codi’r ffioedd. Hyd nes bod Llafur yn gwneud yn y llywodraeth yng Nghaerdydd fel y mae’n nhw’n dweud yn yr wrthblaid yn San Steffan, pam y dylen ni ymddiried ynddyn nhw?

“Mae Plaid Cymru am weld addysg brifysgol yn fforddiadwy i bawb. Wnawn ni ddim gadael i Lafur dynnu addysg o afael pobl ifanc Cymru.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page