Llywodraeth Lafur yn cyfaddef fod cynlluniau hydro wedi eu taro gan godiad mewn ardrethi busnes

Mae newidiadau mewn ardrethi busnes wedi gweld 92% o brosiectau ynni hydro cymunedol Cymru yn dioddef cynnydd yn eu hardrethi busnes, rhai o gymaint â 900%.

Nawr mewn llythyr at aelodau o Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol, mae’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd Lesley Griffiths wedi cyfaddef fod cynlluniau ynni hydro wedi eu taro’n anghymesur gan ail-brisio ardrethi annomestig.

Cyfarfu’r Aelodau Cynulliad Plaid Cymru Simon Thomas a Sian Gwenllian ag arweinwyr busnesau hydro ym mis Gorffennaf i drafod y mater, ac y maent wedi dwyn pwysau’n gyson ar y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd i wella’r sefyllfa ynghylch ardrethi busnes.

Yn ystod cwestiynau’r Amgylchedd (Dydd Mercher 20 Medi 2017) cwestiynodd Simon Thomas Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths, am y mater.

Meddai’r Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Simon Thomas:

“Dylai Llywodraeth Cymru fod yn pryderu o ddifrif am y sefyllfa hon. Maen nhw’n dweud eu bod am i Gymru fod yn genedl werdd, ac y mae prosiectau hydro cymunedol yn hanfodol i beri i hynny ddigwydd. Ond mae eu newidiadau i ardrethi busnes yn gwneud y prosiectau hyn yn amhroffidiol. Byddai’r arian hwn wedi cael ei ail-fuddsoddi yn y gymuned leol.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnes i gynlluniau hydro cymunedol fel y gall cymunedau gwledig barhau i elwa a chynyddu swm yr ynni adnewyddol yr ydym yn gynhyrchu.

“Mae Llywodraeth yr SNP yn yr Alban wedi cyflwyno cynllun tebyg. Mae angen i’r Llywodraeth Lafur yma yn awr wneud yr un peth, a hynny ar fyrder cyn i rai o’r cynlluniau hyn fynd i’r wal.

“Mae’n edrych fel pe na bai un llaw Llywodraeth Cymru yn gwybod beth mae’r llall yn wneud, oherwydd er eu bod yn cefnogi cynlluniau trydan hydro trwy’r gwasanaeth Ynni Lleol maent yn  dwyn arian ymaith oddi wrth y prosiectau cymunedol trwy’r system ardrethi busnes.

“Mae’n rhaid i’r llywodraeth gefnogi’r mathau hyn o brosiectau ynni sy’n rhoi cymaint yn ôl i’w cymunedau os ydym fyth am gyrraedd Cymru dim-carbon.”


Ychwanegodd Simon Hamlyn, Prif Swyddog Gweithredol Y ‘British Hydropower Associaton’

“Mae’r ‘British Hydropower Association [BHA] yn falch iawn bod Mr Thomas wedi cwestiynu Lesley Griffiths dros y mater difrifol hwn o’r cynydd anghyfiawn mewn graddau busnes ar gyfer ynni dŵr. Ysgrifennodd y BHA at Mr Drakeford nifer o weithiau am yr effaith ddifrifol mae ailbrisiad 2017 yn ei gael ar y sector ynni dŵr, ond does dim cynnig wedi cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru am ddatrysiad tymor hir.

“Ar y 5ed o Orffennaf fe gyfarfu’r BHA â Lesley Griffiths. Cafodd y mater o raddau busnes ei godi yn y cyfarfod hwn a gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i  gwrdd â Mr Drakeford yn ystod egwyl yr haf i drafod y mater a cheisio dod o hyd i ddatrysiad. Ysgrifennodd y BHA at Lesley Griffiths i holi am ganlyniad y cyfarfod, gan ein bod yn awyddus i wybod pa ateb sy’n cael ei gysidro i ddatrys y broblem a phryd y bydd yn cael ei weithredu.

“Mae’r BHA yn ymwybodol iawn bod lansiad ymgynghoriad ar gynllun rhyddhad graddau busnes sydd wedi ei gynnal yn ddiweddar ac mi fyddwn yn ymateb iddo, ond fel mae’r BHA wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru ato droeon, nid yw rowndiau o ryddhad yn datrys y broblem. Mae angen datrysiad parhaol ac mae o’i angen cyn gynted ag y bod modd.” 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page