Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar leoliad ysbyty gofal brys a wedi’i gynllunio newydd

Rhwng 23 Chwefror a 19 Mai, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd, staff a sefydliadau partner, i rannu eu barn am dri safle posibl ar gyfer ysbyty gofal brys newydd wedi’i gynllunio fel rhan o strategaeth ehangach y Bwrdd Iechyd i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth.

Y llynedd, cyflwynodd y Bwrdd Iechyd gynlluniau uchelgeisiol i Lywodraeth Cymru, a allai arwain at fuddsoddiad o tua £1.3biliwn mewn iechyd a gofal yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, os byddant yn llwyddiannus. Sylfaen y cynllun, a ddatblygwyd yn dilyn ymgynghoriad yn 2018, yw dod â chymaint o ofal â phosibl yn nes at gartrefi pobl, gyda chynlluniau ar gyfer rhwydwaith o ganolfannau iechyd a gofal integredig, wedi’u dylunio gyda chymunedau lleol, ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro.

Mae Maria Battle, Cadeirydd BIP Hywel Dda, yn esbonio: “Mae ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn rhan o’n strategaeth i allu ail-ddarparu mwy o ofal mewn lleoliadau cymunedol, trwy gael model ysbyty cynaliadwy sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Bydd hyn yn gwella ac yn cynyddu’r gwasanaethau gofal arbenigol y gellir eu darparu yn Hywel Dda ac yn mynd i’r afael â rhai heriau hirsefydlog, gan gynnwys hen ysbytai, problemau wrth gynnal rotas meddygol dros sawl ysbyty, a recriwtio staff.”

Ychwanegodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ein hymgynghoriad yn nodi tri safle posibl ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn ne ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – dau ger Hendy-gwyn ar Daf ac un ger Sanclêr.

“Nid oes gennym safle a ffefrir ac nid ydym wedi prynu unrhyw safle na thir ar gyfer y datblygiad hwn. Mae prynu safle a darparu’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru, nad yw wedi’i gadarnhau eto, ac os bydd yn llwyddiannus, byddai’n cymryd sawl blwyddyn i’w gyflawni. Yn y cyfamser, rydym am barhau i weithio gyda chi, ein cymunedau, i baratoi a darparu’r gwasanaethau iechyd a gofal gorau y gallwn.

Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd y Bwrdd Iechyd yn ceisio adborth gan bob aelod o’r cyhoedd – pobl sy’n byw, yn gweithio, neu sydd â diddordeb yn ein hardal, yn ogystal â sefydliadau sy’n gweithio ym maes iechyd a llesiant neu sydd â diddordeb ynddo, ar y safleoedd posib ar gyfer yr ysbyty newydd.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio BIP Hywel Dda: “Rydym am gwrdd â chymaint o bobl yn ein cymunedau â phosibl a chlywed eu barn yn ystod yr ymgynghoriad. Er mwyn helpu aelodau o’n cymunedau i ddysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer ein hysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd, rydym wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau galw heibio cyhoeddus – yn bersonol ac ar-lein – i bobl rannu eu barn gyda ni. Edrychwn ymlaen at gyfarfod ag aelodau o’n cymunedau yn ystod yr wythnosau nesaf.”

Bydd y digwyddiadau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal rhwng 2pm a 7pm:

10 Mawrth, Y Neuadd Fawr, Neuadd y Dref, Aberteifi
14 Mawrth, Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli
16 Mawrth, Clwb Rygbi Hwlffordd, Hwlffordd
21 Mawrth, Gwesty Llwyn Iorwg, Caerfyrddin
24 Mawrth, Neuadd Regency, Saundersfoot
28 Mawrth, Neuadd Goffa Llandybie, Llandybie
17 Ebrill, Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Hendy-gwyn ar Daf
21 Ebrill, Canolfan Morlan, Aberystwyth,
24 Ebrill, Canolfan Hamdden Sanclêr, Sanclêr
Yn ogystal â’r digwyddiadau galw heibio, mae tair sesiwn ar-lein wedi’u trefnu ar gyfer:

6:30pm, 13 Mawrth
1pm, 23 Mawrth
10am, 16 Mawrth
Bydd manylion yr ymgynghoriad, gan gynnwys gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y sesiynau ar-lein, copïau o’r dogfennau ymgynghori mewn amrywiaeth o fformatau, a manylion am sut i rannu eich barn, ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd ar 23 Chwefror: biphdd.gig.cymru/safle-ysbyty-newydd

————————————————————————————————

Launch of public consultation on location of new planned and urgent care hospital |

Between 23 February and 19 May, Hywel Dda University Health Board (UHB) will be inviting members of the public, staff and partner organisations, to share their views about three potential sites for a new planned and urgent care hospital as part of the Health Board’s wider strategy to improve health and care in the region.

Last year, the Health Board submitted ambitious plans to the Welsh Government, which if successful, could result in the region of £1.3billion investment into health and care in mid and west Wales. The foundation of the plan, which was developed following consultation in 2018, is to bring as much care as possible closer to people’s homes, with plans for a network of integrated health and care centres, designed with local communities, across Carmarthenshire, Ceredigion, and Pembrokeshire.

Maria Battle, Hywel Dda UHB Chair, explains: “A new urgent and planned care hospital is part of our strategy to be able to re-provide more care in community settings, by having a sustainable hospital model fit for future generations.

“This will improve and increase the specialist care services that can be provided in Hywel Dda and tackle some long-standing challenges, including old hospitals, problems in maintaining medical rotas over several hospitals, and staff recruitment.”

Steve Moore, Hywel Dda UHB Chief Executive, added: “Our consultation sets out three potential sites for a new Urgent and Planned Care Hospital in the south of the Hywel Dda University Health Board area – two near Whitland and one near St Clears.

“We do not have a preferred site and we have not bought any site or land for this development. Purchasing a site and delivering the new Urgent and Planned Care Hospital is subject to the Welsh Government funding, which is not yet confirmed, and if successful, would take several years to achieve. In the meantime, we want to continue to work with you, our communities, to prepare and deliver the best health and care services that we can.

During the consultation, the Health Board will be seeking feedback from all members of the public – people who live, work, or have an interest in our area, as well as organisations working in or interested in health and well-being, on the potential sites for the new hospital.

Lee Davies, Hywel Dda UHB Executive Director of Strategy and Planning, said: “We want to meet with and hear the views of as many people in our communities as possible during the consultation. To help members of our communities to learn more about the plans for our new urgent and planned care hospital, we have arranged a number of public drop-in events – both in-person and online – for people to share their views with us. We look forward to meeting with members of our communities during the coming weeks.”

The public drop-in events will be held between 2pm and 7pm:

10 March, The Great Hall, Guildhall, Cardigan
14 March, Selwyn Samuel Centre, Llanelli
16 March, Haverfordwest Rugby Club, Haverfordwest
21 March, Ivy Bush Royal Hotel, Carmarthen
24 March, Regency Hall, Saundersfoot
28 March, Llandybie Public Memorial Hall, Llandybie
17 April, Whitland Sports and Social Club, Whitland
21 April, Morlan Centre, Aberystwyth
24 April, St Clears Leisure Centre, St Clears
In addition to the drop-in events, three online sessions are planned for:

6:30pm, 13 March
1pm, 23 March
10am, 16 March
Details of the consultation, including information on how to register for the online sessions, copies of the consultation documents in a range of formats, and details of how to share your views, will be available on the Health Board’s website on 23 February: hduhb.nhs.wales/new-hospital-site

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page