Mae prosiect trawsnewid iechyd meddwl yn gipio gwobr genedlaethol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dathlu heddiw (dydd Gwener 22 Medi 2017) ar ôl ennill un o Wobrau GIG Cymru, sy’n dathlu eu dengmlwyddiant eleni.

Daeth y prosiect “Gweithio Law yn Llaw i Drawsnewid Iechyd Meddwl” i’r brig yn y categori Dinasyddion Wrth Wraidd Ailgynllunio a Darparu Gwasanaethau a noddwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, a fynychodd y seremoni, “Mae Gwobrau GIG Cymru yn llwyfan cenedlaethol i arddangos  rhagoriaeth a dathlu arferion gorau o ran gwella gofal cleifion ledled Cymru. Mae’n gyfle gwych i ddysgu oddi wrth ein gilydd a chydnabod arloesedd ysbrydoledig staff y GIG.

“Dylai pawb yn y rownd derfynol ymfalchïo yn y ffaith eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr. Mae’n galonogol gweld cymaint o angerdd ac ymroddiad i wella gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru”.

Mae Gwobrau GIG Cymru yn cael eu trefnu gan 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, y gwasanaeth gwella cenedlaethol sy’n cael ei ddarparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Lansiwyd y Gwobrau yn 2008 i ddathlu 60 mlynedd ers sefydlu’r GIG ac i gydnabod a hyrwyddo arferion gorau ledled Cymru.

Cafwyd ceisiadau gan amrywiaeth sefydliadau, a oedd yn dangos gwaith arloesol ac amrywiol o safon uchel sy’n trawsnewid gofal cleifion ledled Cymru.

I ddarllen mwy am bob un o’r enillwyr ewch i www.nhswalesawards.wales.nhs.uk/hafan


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page