Aros yn iach yn ystod beichiogrwydd

Aros yn iach yn ystod beichiogrwydd

Mae ambell gyngor ynghylch aros yn iach yn ystod beichiogrwydd i’w gweld yn awr mewn fideo byr newydd sydd wedi’i lansio gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Hywel Dda.

Bydd bwyta’n iach a pharhau i wneud gweithgarwch corfforol yn ystod beichiogrwydd o fudd i chi a’ch babi, ond yn aml gall hynny fod yn anodd i fenywod beichiog sy’n ceisio ymdopi â phrysurdeb eu bywyd yn y gwaith a gartref. Y newyddion da yw y gall ychydig o newidiadau i drefn arferol eich diwrnod wneud gwahaniaeth mawr i chi a’ch babi.

Wrth sôn am y fideo newydd, dyma a ddywedodd Helen Jones a Beth Cossins, aelodau o’r Tîm Iechyd Cyhoeddus a helpodd i’w gynllunio: “Rydym yn gobeithio y bydd y negeseuon yn y fideo’n helpu darpar famau a menywod sy’n cynllunio beichiogrwydd i aros yn iach a pharhau i wneud gweithgarwch corfforol yn ystod eu beichiogrwydd. Mae’n eu hatgoffa o bwysigrwydd bwyta amrywiaeth o wahanol fwydydd yn ystod beichiogrwydd, pan fydd angen i fenywod sicrhau’r cydbwysedd cywir o faetholion ar eu cyfer nhw eu hunain ac ar gyfer eu babi sy’n tyfu.

“Mae hefyd yn chwalu rhai o’r hen goelion ynghylch beichiogrwydd, megis y gred bod angen bwyta ac yfed llawer o galorïau ychwanegol. Mewn gwirionedd, dim ond 200 o galorïau ychwanegol y dydd y mae angen i ddarpar famau eu cael yn ystod tri mis olaf beichiogrwydd.

“Weithiau bydd menywod beichiog yn poeni am wneud ymarfer corff, ond mae’n ddiogel iddynt wneud gweithgarwch corfforol yn ystod beichiogrwydd. Gall eu helpu i addasu’n well i’r modd y mae siâp eu corff yn newid; ymdopi’n well â’r esgor; a’u helpu i adennill eu ffigwr ar ôl yr enedigaeth. Byddem yn annog menywod i barhau â’u gweithgarwch corfforol dyddiol arferol, megis rhedeg, ioga, dawnsio neu gerdded, cyhyd â’u bod yn dal i deimlo’n gyfforddus wrth ei wneud.”

Mae’r fideo yn rhan o ymgyrch ehangach, sy’n cynnwys bydwragedd ac ymwelwyr iechyd, i hybu iechyd a lles menywod beichiog a’u teuluoedd.

I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor, mynnwch sgwrs â’ch bydwraig.
I weld y fideo, ewch i:

 

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: