Gwraig o Dreherbert yn achub bywyd ei gŵr ychydig ddyddiau ar ôl cwblhau cwrs cymorth cyntaf St John Ambulance Cymru

Ar ddydd Sul 24ain Mawrth, achubodd Elaine Cooper, 60 oed o Dreherbert, fywyd ei gŵr gan ddefnyddio CPR, ddeuddydd yn unig ar ôl cwblhau cwrs cymorth cyntaf gydag St John Ambulance Cymru.

 

Roedd Elaine ar ei ffordd adref o’r gwaith pan dderbyniodd alwad yn dweud bod ei gŵr 64 oed, Alun, yn teimlo’n sâl iawn. Diolch byth, roedd Elaine newydd orffen ei hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y Gwaith swyddogol, felly roedd ganddi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i achub bywyd ei hanwylyd.

 

Rhuthrodd merch Elaine, sy’n byw gerllaw, i’w chartref teuluol yn gyflym ac wrth i Elaine gyrraedd roedd cyflwr Alun wedi gwaethygu’n sylweddol. Ffoniodd Elaine 999 yn syth ar ôl iddo stopio anadlu.

 

Roedd Elaine wedi cwblhau ei chwrs tridiau Cymorth Cyntaf yn y Gweithle gyda Lisa, Hyfforddwraig St John Ambulance Cymru, ym mhencadlys yr elusen yng Nghaerdydd dim ond dau ddiwrnod ynghynt, felly roedd hi’n gwybod sut i gynnal yr arolwg cychwynnol, monitro anadlu Alun a darparu CPR.

 

Diolch byth, ar ôl ambell rownd o gywasgiadau ar ei frest ac anadliadau achub, dechreuodd Alun anadlu eto. Arhosodd yn sefydlog nes i barafeddygon gyrraedd ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, lle bu’n aros am dridiau. Yn ddiweddarach, clywodd y teulu fod ei ataliad ar y galon wedi’i achosi gan drawiad epileptig.

 

“Ni fyddwn wedi gallu ei wneud heb y sgiliau cymorth cyntaf a ddysgais gan Lisa,” dywedodd Elaine.

 

“Roeddwn i’n amheus ynglŷn â gwneud y cwrs cymorth cyntaf ac roeddwn i’n ystyried peidio â mynd, ond rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi mynychu.”

 

“Roedd yr holl brofiad mor frawychus, wnes i erioed feddwl y byddai’n rhaid i mi wneud CPR ar unrhyw un, heb sôn am aelod o fy nheulu.”

 

Mae’r cwpl, sydd wedi bod yn briod ers bron i 40 mlynedd, yn dal i wella’n feddyliol ac yn gorfforol o’r digwyddiad. Mae Alun ar feddyginiaeth newydd ac yn mynychu archwiliadau meddygol rheolaidd, ond mae ar y ffordd i wella. Mae’r cwpl mor ddiolchgar am y sgiliau achub bywyd a ddysgodd Elaine, wrth i’w gweithred gyflym achub ei fywyd y diwrnod hwnnw.

 

Dywedodd Kate Evans, Pennaeth Hyfforddiant Gweithle St John Ambulance Cymru: “Mae stori Elaine yn enghraifft berffaith o pam mae cymorth cyntaf mor bwysig, mae wir yn achub bywydau.

 

“Rydym yn angerddol dros rymuso pobl gyda’r sgiliau cymorth cyntaf, fel y gallant weithredu’n gyflym mewn argyfwng ac achub mwy o fywydau.

 

“Hoffem ddymuno’r gorau i Alun gyda’i adferiad a chanmol Elaine am y ffordd y rhoddodd ei sgiliau newydd ar waith.”

 

Roedd Elaine mor ddiolchgar ei bod wedi ennill sgiliau cymorth cyntaf newydd gydag St John Ambulance Cymru, gan eu bod yn hollbwysig yn y foment honno. Os hoffech ddysgu sgiliau cymorth cyntaf achub bywyd gydag St John Ambulance Cymru, cofrestrwch ar gyfer un o Gyrsiau Hyfforddi Gweithle swyddogol yr elusen yma: www.sjacymru.org.uk/en/page/training.

 

Mae St John Ambulance Cymru hefyd yn cynnig arddangosiadau cymorth cyntaf am ddim mewn ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu un o’r sesiynau hyn, yna ewch i www.sjacymru.org.uk/en/courses/list/GPC i gael gwybod mwy.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page