Mae Alun a Sian Thomas wedi codi swm gwych o £2,000 ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.
Trefnodd Alun a Sian noson bingo ym mis Medi 2022 i gefnogi’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod yng Nglangwili, yn ogystal ag Ambiwlans Awyr Cymru a’r Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glan Clwyd.
Treuliodd Cai, mab Alun a Sian, chwe wythnos yn SCBU ym mis Awst 2022. Roedd y pâr eisiau codi arian i ddiolch am y gofal eithriadol a gafodd.
Dywedodd Sian: “Fe wnaethon ni drefnu noson bingo gyda nifer wych yn bresennol. Cawsom lawer o roddion hael gan deulu, ffrindiau a busnesau lleol.
“Rydym mor ddiolchgar i bawb a’n cefnogodd i godi swm mor arbennig ac i SCBU am bopeth a wnaethant i Cai.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym am ddiolch yn fawr iawn i Alun a Sian am eu gwaith codi arian anhygoel i’r SCBU.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.