GAN fod y gwaith adeiladu bellach wedi’i gwblhau, mae llawer o breswylwyr eisoes wedi dechrau symud i mewn i gyfadeilad o fflatiau newydd yng nghanol dinas Abertawe.
Mae’r bloc o 33 o fflatiau sy’n cael ei redeg gan Pobl Group yn llunio rhan o ardal Bae Copr gwerth £135m a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe.
Mae’r fflatiau ar ochr canol y ddinas i’r bont newydd dros Oystermouth Road yn edrych dros Arena Abertawe a’r parc arfordirol 1.1 erw. Mae gan rai o’r fflatiau olygfa o Fae Abertawe a’r arfordir.
Mae ardal Bae Copr yn cael ei rheoli gan RivingtonHark a’i hadeiladu gan Buckingham Group Contracting.
Bydd nodweddion eraill Bae Copr, gan gynnwys y maes parcio newydd y tu ôl i’r fflatiau, yn ogystal â’r unedau manwerthu ar Cupid Way ar gyfer busnesau bwyd a diod, yn cael eu gorffen yn hwyrach eleni.
Meddai’r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:
“Bydd y fflatiau hyn yn creu mwy o gyfleoedd byw fforddiadwy yng nghanol y ddinas, gan gyfuno â’r arena a’r parc arfordirol i annog mwy o ymwelwyr. Mae hyn yn bwysig gan y bydd yn helpu i greu mwy o wariant mewn siopau a busnesau eraill yng nghanol y ddinas drwy gefnogi masnachwyr yno.
“Bydd y fflatiau newydd o ansawdd uchel ynghyd â chynlluniau preswyl eraill yng nghanol y ddinas a thu hwnt yn gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd byw llawer o bobl.”
Bydd yr holl fflatiau ym Mae Copr yn gartrefi fforddiadwy, ar gyfer y rheini sy’n gweithio yng nghanol dinas Abertawe, yn enwedig gweithwyr allweddol. Bydd y cartrefi hyn a ariennir gan Pobl Group a Llywodraeth Cymru yn cynnwys 13 o fflatiau un ystafell wely i hyd at ddau berson ac 20 o fflatiau dwy ystafell wely i hyd at dri pherson.
Dywedodd Amanda Davies, Prif Weithredwr Pobl Group:
“Mae datblygiad Bae Copr yn ychwanegiad pwysig i’r ddinas sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd y mae galw mawr amdanynt ar gyfer y rheini sydd am fyw a gweithio yng nghanol y ddinas, gan helpu’r cyngor yn ei strategaeth adfywio ehangach ar gyfer y ddinas.”