Peidiwch â rhoi eich hun ar y llwybr llithrig. Dyna neges Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin, sy’n targedu diogelwch teiars ar ffyrdd ein sir.
Mae’r ymgyrch diogelwch teiars yn cyd-fynd â ‘Mis Cenedlaethol Diogelwch Teiars’. Mae’r neges yn syml – dylai gyrwyr archwilio eu teiars yn aml ac yn enwedig cyn siwrne hir. Dylai gyrwyr gymryd gofal o’u teiars, sicrhau bod y pwysedd aer ynddynt yn gywir a’u newid pan fyddant wedi’u treulio neu wedi’u difrodi.
Rhaid i drwch gwadnau teiars ceir, cerbydau nwyddau ysgafn a threlars ysgafn fod o leiaf 1.6mm ar draws tri chwarter canolog y gwadn o amgylch holl gylchedd y teiar. Yn gyfreithlon, rhaid i drwch gwadnau teiars beiciau modur, cerbydau mawr a cherbydau sy’n cludo teithwyr fod o leiaf 1mm.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae gwneud yn siŵr bod eich teiars wedi’u chwyddo i’r gwasgedd gwynt cywir yn hollbwysig i’ch diogelwch ar y ffordd. Mae teiars heb ddigon o aer ynddynt yn effeithio ar eich gallu i drafod cerbyd ac ar afael y cerbyd, ac maent yn llawer mwy tebygol o golli aer yn sydyn, yn enwedig wrth deithio’n gyflym ar draffyrdd.
“Mae deddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn mynnu bod gan eich cerbyd y math iawn o deiars ar gyfer y math o gerbyd yr ydych yn ei yrru ac at y diben y mae’n cael ei ddefnyddio.
“Mae’n ofynnol yn gyfreithiol bod gyrwyr yn sicrhau bod gwadnau eu teiars yn ddigon dwfn cyn gyrru ar y ffordd.
“Mae sicrhau bod pob teiar mewn cyflwr da yn rhan bwysig o gynnal a chadw car. Mae cosb lem am yrru â theiars diffygiol; ar hyn o bryd, gallech gael dirwy hyd at £2,500 a thri phwynt cosb fesul teiar diffygiol.”
Os ydych yn ansicr ynghylch dyfnder gwadnau teiars eich car, ffordd hawdd o archwilio’r teiars yw drwy ddefnyddio Tread Buddy. I gael eich Tread Buddy rhad ac am ddim (y gellir ei ddefnyddio hefyd fel darn arian ar gyfer trolïau) anfonwch neges e-bost at DiogelwchFfyrdd@sirgar.gov.uk, anfonwch neges at y tîm ar Facebook @CarmarthenshireRoadSafety neu anfonwch neges uniongyrchol ar Twitter @CarmsRoadSafety. Fel arall, ewch i’r wefan www.tyresafe.org i ddod o hyd i’ch arwerthwr teiars lleol er mwyn iddynt gael golwg ar eich teiars yn rhad am ddim.