Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru cael cyfran o £161m

BYDD rhagor na 15,600 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o fwy na £161m pan fydd rhagdaliadau Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) 2022 yn cael eu talu fory (Gwener 14 Hydref), meddai’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.

Mae hynny’n golygu y bydd 97% o hawlwyr yn cael rhagdaliad, 70% o werth bras eu hawliad BPS llawn.

Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i Taliadau Gwledig Cymru (RPW) dalu rhagdaliadau BPS yn awtomatig ym mis Hydref.

Cyn 2021, fyddai’r BPS ddim yn dechrau cael ei dalu tan 1 Rhagfyr bob blwyddyn.

Yn sgil newid y rheoliadau gan y Gweinidog ar ôl diwedd Cyfnod Pontio Ymadael â’r UE, cafodd y gofynion ar gyfer BPS eu symleiddio gan ei gwneud yn bosib talu rhagdaliadau BPS i hawlwyr cymwys cyn mis Rhagfyr. Ond ceir nifer o resymau pam na fydd rhai hawlwyr yn cael rhagdaliad BPS, gan gynnwys anghydfod tir, gweld yn ystod archwiliad bod rheol wedi’i thorri neu broblemau â’r profiant.

Dechreuir talu gweddill BPS 2022 neu’r taliadau llawn o 15 Rhagfyr 2022 cyn belled â bod yr hawliad yn bodloni’r holl amodau.

Rydyn ni’n rhagweld y bydd modd dilysu’r holl hawliadau BPS heblaw am y rhai mwya cymhleth, a’u talu i gyd cyn diwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2023.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Ers symleiddio rheolau’r BPS, rydym wedi cael talu’r rhagdaliadau cyn mis Rhagfyr. Mae hynny’n rhoi sicrwydd ariannol i fusnesau fferm mewn cyfnod aruthrol o anodd.

Hefyd, yma yng Nghymru, rydym wedi cadw cyllideb y BPS i £238m, yr un faint â’r llynedd.

Caiff y balans sydd heb ei dalu a thaliadau BPS llawn eu talu ar ôl 15 Rhagfyr a bydd fy swyddogion yn gweithio’n galed eleni eto i dalu cymaint o ffermwyr â phosibl yn fuan yn y cyfnod talu.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page