Carcharu tad a mab am eu rhan mewn ymgyrch gyffuriau deuluol yn Sir Gaerfyrddin

Mae aelodau teulu a sefydlodd ffatri ganabis soffistigedig yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, yr amcangyfrifir ei bod wedi gwneud elw o £4.3 miliwn mewn 5 mlynedd, wedi’u carcharu.

Heddiw, dedfrydwyd tad a mab, sef Edward, 62 oed, a Daniel McCann, 37 oed, yn Llys y Goron Abertawe i 7 mlynedd a 7 mis ac 8 mlynedd a 6 mis yn ôl eu trefn am eu rhan mewn cynhyrchu canabis yn eu heiddo arunig ym Mlaenllain, Cwmbach, ger Hendy-gwyn ar Daf.

Dedfrydwyd gwraig Edward, Linda McCann, 60 oed, i 6 blynedd a 7 mis o garchar mewn gwrandawiad ochr yn ochr â’u gweision, Jack Whittock, a dderbyniodd ddedfryd o 2 flynedd a 10 mis, a Justin Liles, a dderbyniodd ddedfryd o 22 mis, ar 26 Awst.

Ar 23 Hydref 2020, gweithredwyd gwarant gan yr heddlu yn yr eiddo yr oedd y teulu McCann yn byw ynddo. Daethant o hyd i osodiad mawr soffistigedig mewn sgubor, a’u gwelodd yn cynhyrchu canabis llysieuol, resin canabis, ac olew canabis. Yn ystod y cyrch, arestiwyd Linda McCann, Liles, o ardal Glasfryn, Sanclêr, a Whittock, o Stryd Fawr Arberth, yn y sgubor. Daethpwyd o hyd i Edward McCann yn y tŷ ar yr un safle.

Arestiwyd Daniel McCann o Highcroft Lane, Horndean, Waterlooville, a oedd yn berchen ar yr eiddo ger Hendy-gwyn ar Daf ac a adnabuwyd drwy deledu cylch cyfyng ar y safle, yn Portsmouth ar 15 Chwefror 2021.

Yn ystod y warant, daeth swyddogion o hyd i chwe ystafell bwrpasol lawr stâr yn y sgubor a oedd yn cynnwys planhigion canabis mewn gwahanol gyfnodau o dyfu.

Lan stâr yn y sgubor, roedd sawl morwyn ddillad yn cael ei defnyddio i sychu canabis, a nifer o focsys a bagiau plastig llawn canabis llysieuol.

Roedd gan y planhigion yn y sgubor werth posibl o hyd at £460,000, tra bod swyddogion hefyd wedi adfer tua 80kg o gynnyrch canabis â gwerth hyd at £1.5 miliwn.

Wrth chwilio’r tŷ, daethpwyd o hyd i £10,000 mewn arian parod mewn ystafell wely, a bar o siocled â chanabis ynddo ar fwrdd y gegin.

Plediodd y pump yn ddieuog, ond newidion nhw eu pledion ar ôl i’r achos llys gychwyn.

Dywedodd y Prif Arolygydd Rhys Jones: “Mae targedu cynhyrchwyr a gwerthwyr yn flaenoriaeth ar gyfer ein heddlu yn ein hymdrechion i gael gwared ar bobl sy’n lledaenu diflastod drwy ein cymunedau.

“Dewisodd y teulu McCann yr eiddo hwn er mwyn dod i fan gwledig, arunig, lle y credent y gallent osgoi cael eu cosbi am eu gweithredoedd. Fe wnaethant gamgymeriad.

“Nawr bod y dedfrydau hyn wedi’u cyflwyno, byddwn yn ceisio cael gwared ar eu henillion anghyfreithlon drwy’r Ddeddf Elw Troseddau.”

Dywedodd y Ditectif Ringyll Owen Lock: “Diolch i ymdrechion ein swyddogion, yn ystod ymchwiliad sydd wedi bod yn sylweddol, mae’r bobl hyn yn awr dan glo.

“Mae’n dangos pa mor bwysig ydyw i bobl ddweud wrth yr heddlu pan maen nhw’n amau bod rhywbeth amheus yn digwydd, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.”

Os ydych chi’n credu bod rhywun yn tyfu neu’n gwerthu cyffuriau, rhowch wybod i Heddlu Dyfed-Powys, naill ai ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page