Chwaraeon a Hamdden Actif yn ennill gwobr iechyd a diogelwch a gydnabyddir yn rhyngwladol

Chwaraeon a Hamdden Actif yn ennill gwobr iechyd a diogelwch a gydnabyddir yn rhyngwladol gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA).

Mae tîm Chwaraeon a Hamdden Actif, Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dod i’r brig mewn cystadleuaeth ryngwladol gref a chipio Gwobr Fawreddog RoSPA, gan ddangos ei ymrwymiad i ragoriaeth iechyd a diogelwch.

Enillodd tîm Chwaraeon a Hamdden Actif Wobr Aur yn y categori Diogelwch Hamdden, gan ddangos ei ymroddiad i sicrhau bod ei staff, cwsmeriaid a chontractwyr yn cyrraedd adref yn ddiogel ar ddiwedd pob diwrnod gwaith.

Gwobrau Iechyd a Diogelwch RoSPA yw’r rhaglen wobrwyo iechyd a diogelwch galwedigaethol fwyaf yn y DU. Mae’r Gwobrau, a gynhelir am y 67fed flwyddyn, yn cael bron i 2,000 o geisiadau bob blwyddyn, sy’n cwmpasu bron i 50 o wledydd ac yn cyrraedd dros 7 miliwn o weithwyr. Mae’r rhaglen yn cydnabod ymrwymiad sefydliadau i wella’n barhaus wrth atal damweiniau ac afiechyd yn y gwaith, gan edrych ar systemau rheoli iechyd a diogelwch cyffredinol cystadleuwyr, gan gynnwys arferion fel arwain a chyfranogiad y gweithlu.

Er bod y rhan fwyaf o wobrau’n rhai nad ydynt yn gystadleuol, sy’n cydnabod cyflawniadau sefydliadau unigol, cyflwynir gwobrau cystadleuol mewn 20 o sectorau diwydiannol ac ar gyfer meysydd arbenigol o ran rheoli iechyd a diogelwch.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae sicrhau diogelwch ein staff, ein cwsmeriaid a’n contractwyr, yn ein holl gyfleusterau Chwaraeon a Hamdden Actif, yn hollbwysig ac rwyf wrth fy modd bod y tîm wedi ennill y Wobr Aur unwaith eto yng nghategori Diogelwch Hamdden Gwobr RoSPA.”

Dywedodd Julia Small, Cyfarwyddwr Cyflawniadau RoSPA:

“Mae damweiniau yn y gwaith ac afiechyd yn gysylltiedig â’r gwaith yn cael goblygiadau ariannol enfawr, yn achosi tarfu mawr ac yn effeithio’n sylweddol ar ansawdd bywyd unigolyn. Dyna pam mae perfformiad diogelwch da yn haeddu cael ei gydnabod a’i wobrwyo.

“Rydym wrth ein bodd bod y tîm Chwaraeon a Hamdden Actif wedi ennill Gwobr RoSPA a hoffem eu llongyfarch ar ddangos ymrwymiad diwyro i gadw eu gweithwyr, eu cleientiaid a’u cwsmeriaid yn ddiogel rhag niwed ac anaf damweiniol.”

Wedi’i noddi gan Croner-i, cynllun Gwobrau RoSPA yw’r hynaf o’i fath yn y DU, ac mae’n derbyn ceisiadau gan sefydliadau ledled y byd, gan ei wneud yn un o’r gwobrau cyflawniad mwyaf poblogaidd ar gyfer y diwydiant iechyd a diogelwch.


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page