COFRESTRODD cannoedd o fyfyrwyr ar gyfer digwyddiad Sbri Siopa i Fyfyrwyr yng Nghaerfyrddin, sef digwyddiad siopa unigryw sy’n cynnig gostyngiadau enfawr i fyfyrwyr mewn siopau.
Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer y drydydd digwyddiad wedi cychwyn eisoes ac mae’r dyddiad wedi’i bennu ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd Sbri Siopa i Fyfyrwyr 2018 yn digwydd ar 27 Medi 2018.
Bydd tîm datblygu economaidd y Cyngor Sir yn cydweithio unwaith eto â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Yr Atom, Cyngor Tref Caerfyrddin ac Undeb y Myfyrwyr er mwyn dod â’r Sbri Siopa i Fyfyrwyr yn ôl i Gaerfyrddin.
Cymerodd dros 40 o fusnesau ar draws canol tref Caerfyrddin ran yn y digwyddiad eleni gan gynnwys siopau cadwyn cenedlaethol, siopau lleol, bwytai a chaffis.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus dros ben ac ein rôl oedd helpu i roi hwb i’r diwydiant siopa yn lleol a chyflwyno cwsmeriaid newydd i’r masnachwyr yma yng Nghaerfyrddin. Mae’r adborth gan y busnesau a gymerodd ran wedi bod yn gadarnhaol iawn. Ein gobaith yw y bydd cyhoeddi’r dyddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gynnar yn annog mwy fyth o fusnesau i gymryd rhan, gyda’r nod o wneud digwyddiad blwyddyn nesaf yn fwy a hyd yn oed yn well.”
Dywedodd Rob Simkins, Llywydd Grŵp Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Roedd y Sbri Siopa i Fyfyrwyr yn bendant yn un o uchafbwyntiau’r rhaglen FRESHtival ar gyfer ein myfyrwyr ar draws pob un o’n safleoedd ac roedd myfyrwyr yn bresennol o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe, yn ogystal â myfyrwyr 6ed dosbarth lleol a cholegau Addysg Bellach.
”
Roedd cynnal y digwyddiad mor gynnar yn y calendr yn fuddiol iawn i’n myfyrwyr ac yn eu cyflwyno i’r ardal leol, a hynny am y tro cyntaf i nifer ohonynt. Roedd hi’n galonogol iawn gweld cymaint o fyfyrwyr yn bresennol yn y digwyddiad, ac yn gwneud y gorau o’r adloniant stryd a’r gostyngiadau a oedd ar gael! Rydym eisoes wedi cychwyn ar y gwaith cynllunio ar gyfer yr un nesaf ac rydym yn edrych ymlaen ato yn fawr!”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Wyn Maskell, WMaskell@sirgar.gov.uk
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.