Mwy o gyllid i sefydliadau sy’n helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg

Mae mentrau iaith a’r papurau bro ymysg y sefydliadau sy’n rhannu bron i £260,000 i helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg.

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi bod cyllid newydd ar gael i 36 o sefydliadau, i’w helpu i barhau â’u gwaith pwysig er gwaetha’r ffaith bod costau byw yn cynyddu.

Bydd y Mentrau Iaith, sy’n darparu gweithgareddau a chyfleoedd yn Gymraeg i bobl yn eu hardal leol, yn cael taliad un-tro er mwyn delio â chynnydd mewn costau gweinyddu ac i godi cyflogau. Mae’r Mentrau yn cefnogi siaradwyr Cymraeg o bob oed a gallu i ddefnyddio mwy o Gymraeg.

Mae’r Papurau Bro yn rhwydwaith o 53 o bapurau newydd Cymraeg lleol. Maent wedi eu hysgrifennu gan y gymuned ar gyfer y gymuned, er mwyn rhannu straeon, digwyddiadau a gwybodaeth leol. Bydd pob un yn cael taliad i helpu â chostau cyhoeddi.

Bydd Prifysgol Bangor yn cael cyllid i barhau â’r gwaith ar Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru, ac i’n helpu i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle drwy brosiect ARFer.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a dylai pawb gael y cyfle i’w defnyddio hi yn eu bywydau bob dydd. Bydd y taliad un-tro hwn yn helpu ein rhwydwaith o sefydliadau sy’n rhoi cymorth i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn sgil yr argyfwng costau byw.”

Manylion Cyswllt

Alys Jones

alys.jones045@gov.wales

Nodiadau i olygyddion

Bydd y sefydliadau canlynol yn derbyn cyllid:

Enw’r sefydliad

Cyllid ychwanegol

Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

£4,990.00

Merched y Wawr

£4,400.00

Mentrau Iaith Cymru

£6,400.00

Cered

£4,830.00

Hunaniaith

£6,680.00

Gwallgofiaid

£920.00

Dyffryn Nantlle 2020

£120.00

Menter Iaith Abertawe

£4,090.00

Menter Iaith Blaenau Gwent, Tor-faen a Mynwy

£4,740.00

Menter Bro Ogwr

£2,400.00

Menter Caerdydd & Y Fro

£8,270.00

Menter Caerffili

£3,830.00

Menter Iaith Casnewydd

£2,400.00

Castell Nedd Port Talbot

£4,620.00

Menter Iaith Conwy

£4,230.00

Menter Iaith Sir Ddinbych

£3,270.00

Menter Iaith Merthyr

£2,400.00

Menter Iaith Môn

£5,330.00

Menter Iaith Maldwyn

£2,910.00

Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed

£2,400.00

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

£4,320.00

Menter Iaith Sir Benfro

£3,620.00

Menter Bro Dinefwr

£5,240.00

Menter Gorllewin Sir Gâr

£2,910.00

Menter Cwm Gwendraeth Elli

£4,640.00

Menter Iaith Fflint Wrecsam

£5,290.00

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

£2,000.00

Prosiect WICI Llyfrgell Genedlaethol Cymru

£600.00

Prosiect ARFer (Prifysgol Bangor)

£2,680.00

Prifysgol Bangor – Technoleg Iaith

£14,000.00

Ysgol Gymraeg Llundain

£3,600.00

Mudiad Meithrin

£121,240.00

RhAG

£4,000.00

M-Sparc (Prifysgol Bangor) Hac y Gymraeg

£1,120.00

Bardd Plant Cymru

£200.00

Papurau Bro

£5,300.00

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page