Merched Mewn Amaeth Cyswllt Ffermio

Alice Lampard & Holly Beckett

Merched mewn amaeth yn dysgu y gallai edrych ar ôl eich hun a’ch gweithwyr fod yn allweddol i ddylanwadu ar newid mewn busnesau fferm yng Nghymru

Roedd mesurau cyfartal o chwerthin ac arswyd gan ferched ar draws Cymru a fynychodd fforwm Merched mewn Amaeth a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio ym Mhortmeirion ac yng Nghastell Aberteifi yn ddiweddar.

Merch fferm sy’n wyneb cyfarwydd fel cyflwynwyd teledu ar S4C a BBC Cymru, Dot Davies, oedd yn cadeirio’r fforwm. Llwyddodd y sesiwn i gyrraedd y targed, sef ysbrydoli, ysgogi a galluogi pawb oedd yno, trwy raglen o gyflwyniadau, gweithdai a sesiynau rhyngweithiol ar faterion y dydd a allai effeithio ar ferched sy’n gweithio yn y diwydiant heddiw.

Rhoddwyd sylw i bynciau’n amrywio o Brexit a’r cyfleoedd a’r heriau sy’n debygol o ddeillio ohono i fusnesau fferm yng Nghymru i gydnabod mai staff yw ased pwysicaf busnes bob amser. Trafodwyd gwerth neilltuo amser i ystyried eu lles eu hunain a chymerwyd rhan mewn sesiwn ar ymwybyddiaeth ofalgar, sydd wedi’i gydnabod ers amser fel ffordd sy’n helpu i leihau straen yn y sector busnes. Yna cymerodd bawb ran mewn ymarferiad therapi chwerthin a ddisgrifiwyd fel ‘jogio mewnol’ a ddylai fod yn rhan o batrwm bob dydd pawb os ydynt eisiau byw bywyd llawn!

O’r Chwith, Buddug Lewis, Ceredigion, Flur Sheppard, Mair Jones, Ceredigion, Eleri Jones Ceredigion, Holly Beckett

Roedd yr arswyd yn amlwg yn y gweithdai ar ddiogelwch digidol neu ’seiberdroseddau’ oedd dan ofal dau siaradwr a oedd yn arbenigo ar y pwnc o Heddlu Dyfed Powys.

“Sylweddolodd bob un o’r merched a oedd yno fod risgiau enfawr i fusnesau pob un gael eu ‘hacio’ neu’n waeth na hynny, drwy beidio â chymryd mesurau digonol i ddiogelu ein hunaniaeth ar-lein,” meddai Eleri Jones, sy’n rhedeg fferm laeth a defaid 350 erw gyda’i theulu ym Mhenlanymor yn Llanarth.

“Roedd y diwrnod cyfan yn ysbrydoliaeth gydag amrywiaeth ragorol o bynciau. Aethom adref gyda llawer i fyfyrio arno ac yn bersonol, byddaf yn gweithredu llawer o’r hyn yr wyf wedi’i ddysgu heddiw,” ychwanegodd Mrs. Jones.

Cafwyd cyflwyniad gan Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol cwmni Menter a Busnes, Corinna Lloyd-Jones. Roedd ei chyflwyniad yn trafod “Ai pobl yw eich adnodd pwysicaf?” Roedd ei thrafodaeth yn cynnwys ei phrofiad o weithredu, gwerthuso ac adolygu systemau rheoli perfformiad ac am bwysigrwydd bobl o fewn busnesau.

Meddai’r prif siaradwr Fflur Sheppard, a fagwyd ar fferm ei rhieni ar ystâd Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin, ac sy’n gyfarwyddwr cyswllt yng nghwmni cysylltiadau cyhoeddus Beattie Communications,

“Mwynheais siarad gyda chynulleidfa mor flaengar am egwyddorion ennill cefnogaeth a dylanwadu ar farn – sgiliau a fydd mor bwysig wrth i ni symud ymlaen tuag at Brexit.

“Tra oedd gan bawb a oedd yno ddau beth clir yn gyffredin – merched mewn amaeth oedden nhw – yr hyn a’m trawodd oedd amrywiaeth eu persbectif a’u cryfderau, a’u penderfyniad unfrydol i gymryd camau cadarnhaol drostynt eu hunain, eu teuluoedd a’u busnesau, a’r diwydiant yn ehangach.”

Mae Cyswllt Ffermio’n darparu amryw o wasanaethau a digwyddiadau sy’n cefnogi merched sy’n gweithio mewn amaeth yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag un o’n grwpiau Merched mewn Amaeth neu i gael gwybodaeth bellach am unrhyw un o’n gwasanaethau, ewch i, www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol, mae eu manylion cyswllt ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.

Ariennir Cyswllt Ffermio drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page