Amnest Gwastraff a Theiars ym Mhencader

Mae trigolion ym Mhencader a’r ardaloedd cyfagos yn cael eu hannog i gael gwared ar bethau.

Cynhelir amnest gwastraff a theiars yn Ysgol Cae’r Felin, Pencader, ddydd Iau, 2 Tachwedd, 8am-1pm.

Gellir dod â’r rhan fwyaf o fathau o wastraff y cartref, gan gynnwys celfi, carpedi a matresi diangen, eitemau trydan megis oergelloedd/rhewgelloedd a setiau teledu yn ogystal â bagiau du.

Hefyd, mae modd cael gwared â hyd at bedwar teiar; fodd bynnag, ni dderbynnir teiars tractorau na theiars lorïau.

Ni dderbynnir gwastraff peryglus megis paent, tiwbiau fflworoleuadau, batris, cemegion, poteli nwy ac asbestos na gwydr, gwastraff masnach, gwastraff adeiladu a gwastraff amaethyddol.

Hefyd, bydd biniau compost ar werth am £12.

Caiff trigolion eu cynghori i wahanu eu gwastraff ac i ddod â phrawf o’u cyfeiriad.

Bydd amnestau eraill yn cael eu cynnal ym Maes Parcio Llanybydder, ddydd Iau, 18 Ionawr (2018) ac ym Maes Parcio Mart Castellnewydd Emlyn ddydd Iau, 22 Chwefror (2018) rhwng 8am ac 1pm.

Mae’r ardaloedd wedi cael eu dewis er mwyn helpu pobl sydd heb fod yn byw yn agos at Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref i waredu eu gwastraff.

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: