Prifgysgol Abertawe yn cyflwyno cychod gwenyn i wella lles myfyrwyr a staff

MAE Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno cychod gwenyn ar ei champysau fel rhan o brosiect i wella lles myfyrwyr a staff.

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) a BywydCampws wedi partneru â Bee1, sef cwmni o Gymru sy’n addysgu’r cyhoedd am bwysigrwydd gwenyn ar gyfer yr amgylchedd a’n hiechyd meddwl, i greu Bee Together.

Wedi’i ddatblygu fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i les a dysgu yn y gweithle, mae Bee Together yn galluogi’r gymuned i ddod at ei gilydd a gweithio ar brosiect sydd wedi’i wreiddio mewn cynaliadwyedd.

Gyda chymorth hyfforddiant arbenigol gan Bee1, mae myfyrwyr a staff yn cael cyfle i feithrin sgiliau newydd a magu hyder drwy gynnal a chadw nythod gwenyn y Brifysgol ei hun.

Meddai’r myfyriwr gwirfoddolwr Charlotte McEwan, sy’n fyfyriwr Osteopatheg yn yr ail flwyddyn:

“Mae’r rhaglen yn ffordd wych o fod yn rhan o gymuned Prifysgol Abertawe, teimlo’n gysylltiedig â byd natur a dysgu am ba mor anhygoel yw ein gwenyn bach!

“Wrth gael yr amser hwnnw i gael hoe o’m hastudiaethau a chymdeithasu gyda phobl newydd, mae hi eisoes yn helpu o ran fy lles!”

Ychwanegodd Finley Watson, sy’n fyfyriwr y Gymraeg yn yr ail flwyddyn:

“Mae ymwneud â gwenyn yn gyfrifoldeb ymlaciol a di-straen sy’n rhoi rheswm i mi dros gwrdd â phobl a mwynhau’r Ardd Fotaneg.

“Mae’r gwenyn yn dirion iawn ac maen nhw’n gwella fy iechyd meddwl yn sylweddol, tra bod gofalu amdanyn nhw’n ganolbwynt ar gyfer meithrin rhwydweithiau cymorth cymheiriaid i fyfyrwyr.”

Diolch i arbenigedd Mark Douglas – sef sefydlwr Bee1 – ym maes cadw gwenyn, cyflwynwyd 10,000 o wenyn ar bob campws, a bydd hynny’n cynyddu i 50,000 erbyn yr haf nesaf.

Bydd ychwanegu’r rhain yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ardal, a bydd pob cwch gwenyn yn gallu peillio 200 miliwn o blanhigion, blodau a ffrwythau yn Abertawe.

Dywedodd Mark am ei gyfraniad:

“Wedi gweithio gyda sawl Ymddiriedolaeth y GIG, rydyn ni wedi gweld yr effaith sylweddol y gall gweithio gyda gwenyn ei chael ar eich iechyd a lles meddyliol. Gwnaethom gynnal gwerthusiad annibynnol ar staff a aeth y tu hwnt i’n gobeithion a’n disgwyliadau o bell ffordd.

“Diolch i gymorth a gweledigaeth ACA a BywydCampws ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn mynd â hwn gam ymhellach, drwy raglen a fydd ar gael i staff a myfyrwyr elwa arni wrth ofalu am eu gwenyn eu hunain.

“Hefyd, fel rhywun a ddechreuodd cadw gwenyn yn y brifysgol yn ystod fy ngradd, mae hi wir yn ychwanegu rhywbeth sy’n creu argraff ar eich CV.

Er bod y gwenyn yn dechrau troi’n llai gweithgar ar gyfer y gaeaf, mae tîm ACA eisoes yn edrych ar ffyrdd o ehangu’r prosiect.

Meddai Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA):

“Rydyn ni’n chwilio am ffyrdd o ddod â myfyrwyr a staff yn ôl at ei gilydd ar ôl y pandemig, yn ogystal â chodi lefelau hyder er mwyn helpu myfyrwyr i ail-afael yn eu teithiau cyflogadwyedd. Mae Bee1 yn ticio’r holl flychau hyn, ac mae’r ymateb gan fyfyrwyr a staff wedi bod yn well nag y gallem ni fod wedi gobeithio amdano.

“Mae gwenynwyr ymroddedig gennym ni eisoes, a’n camau nesaf ar gyfer y prosiect yw chwilio am gyfleoedd ymchwil ar gyfer y cychod yn ogystal â gweithgarwch entrepreneuraidd.”

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page