Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm

Bum mlynedd ar ôl damwain ar feic cwad a dorrodd benglog Beca Glyn, mae gwisgo helmed ddiogelwch wedi’i rhaglennu i’w hisymwybod, ac yr un mor gyfarwydd iddi â gwisgo gwregys diogelwch car.

 

Ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw ym mis Mawrth 2018, pan gafodd ei thaflu oddi ar feic cwad wrth hel defaid, daeth y ffermwr defaid ifanc yn ystadegyn iechyd a diogelwch.

 

Er ei bod yn parhau i fyw gyda rhai o ganlyniadau’r ddamwain honno, dywed Beca ei bod yn lwcus.

 

“Collais fy synnwyr o flas ac arogl, rwy’n dioddef o feigryn ac angen cymryd tabledi i roi egni i mi ond rwy’n ddiolchgar iawn na wnes i daro rhan o’r ymennydd sy’n rheoli madruddyn y cefn neu fy nghof.

 

“Nid yw’r gallu i flasu ac arogli yn ddim o’i gymharu â’r gallu i gerdded neu gofio.”

 

Digwyddodd y ddamwain pan oedd Beca yn helpu ei thad i hel y defaid ar fferm y teulu yn Ysbyty Ifan.

Gwyrodd yn sydyn yn rhy gyflym, gan droi’r beic cwad a laniodd ar ei phen a chan nad oedd yn gwisgo helmed, fe darodd ei phen ar y ffordd darmac.

 

Aethpwyd â Beca i’r ysbyty mewn ambiwlans ac ar ôl naw mis o orffwys, ffisiotherapi ac adsefydlu y bu iddi ddychwelyd i ffermio, gan golli tymor wyna cyfan a rhoi pwysau gwaith ychwanegol ar ei rhieni, Glyn ac Eleri.

 

A hithau bellach yn 30 oed, mae’r ddamwain honno wedi ei gwneud hi’n hynod ofalus o ran diogelwch ar y fferm, a hefyd lles pawb ar y fferm, gan gynnwys ei thad.

 

“Roedd gyda mi pan gefais y ddamwain ac mewn sioc, does neb eisiau gweld un o’u plant yn anymwybodol ac wedi’i anafu,” meddai Beca.

 

“Rydym bellach yn fwy ymwybodol o weithio ar uchder, trin gwartheg, yr holl dasgau hynny ar y fferm. Fydda i ddim yn helpu gyda thasg nawr os nad ydw i’n meddwl ei bod hi’n ddiogel, felly mae’n rhaid i Dad wrando arna i, fel arall, mae’n gwybod na fydd yn cael unrhyw help!”

 

Mae’n debyg taw mân anafiadau fyddai Beca wedi’u goddef pe bai’n gwisgo helmed, credai.

 

“Rydym yn dysgu o’n camgymeriadau ac rydw i’n gwybod y byddwn i fwy na thebyg ond wedi brifo fy ngwddf a chael rhywfaint o gleisiau.”

 

Dychwelodd ei gallu i flasu ac arogli’r haf diwethaf, ond yn anffodus, dros dro oedd hynny. “Mae wedi dod yn ôl unwaith, efallai y daw eto,” meddylia.

 

Fel Llysgennad Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, mae Beca eisiau cyflwyno’r neges ddiogelwch ar draws y diwydiant amaeth.

 

“Doeddwn i ddim yn rhywun a oedd yn ddi-hid ar y fferm nac yn gyrru cyn y ddamwain felly os gall ddigwydd i rywun fel fi, gall ddigwydd i unrhyw un.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page