MAE Cyngor Sir Caerfyrddin yn llwyr gefnogol o gynnig Grand Union
Trains i weithredu gwasanaeth trên intercity newydd rhwng
Caerfyrddin a Paddington Llundain, gyda phum gwasanaeth dychwelyd bob
dydd.
Mae’r cais, sydd wedi’i gyflwyno gan Grand Union Trains (GUT) yn cael
ei ystyried ar hyn o bryd gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR).
Mae’r cais yn cynnwys ymrwymiad i adeiladu gorsaf ‘parcffordd’ newydd yn
Felindre, i’r gogledd o Abertawe, a fydd yn golygu bod y daith o
Gaerfyrddin a Llanelli i Gaerdydd ac ymlaen i Lundain rhyw 20 munud yn
llai. Caiff y gwasanaethau eu gweithredu gan drenau deuol newydd sbon
sy’n gallu defnyddio trydan neu ddisel.
Mae’r cynnig i gael gwasanaeth trenau o safon uchel, gan gwtogi’r daith
rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd tua ugain munud, yn gyfle pwysig i newid
arferion teithio pobl, oherwydd bydd y daith ar drên wedyn yn debycach
o ran amser i’r hyn a gymerir i fynd mewn car o Gaerfyrddin i Gaerdydd
ac ymlaen i Lundain.
Ac iddi boblogaeth o 185,610, mae Sir Gâr yn rhoi pwys ar ei
gwasanaethau trên, a dengys ffigurau cyn y pandemig fod tua 997,000 o
deithiau ar reilffyrdd yn cael eu gwneud i’r sir, o’r sir, ac o fewn y
sir bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae’r Cyngor am gynyddu’r nifer hwn, wrth
i’r ffigurau cyn y pandemig ddangos mai gan Sir Gâr oedd y ffigurau
traffig trydydd uchaf yng Nghymru, ar ôl Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.
Mae’r potensial sydd gan gynnig _Grand Union Trains_ i newid dulliau
teithio pobl yn cael ei groesawu gan y Cyngor ac yn cyd-fynd ag amcanion
polisi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Byddai gwella’r gwasanaeth trenau i Sir Gaerfyrddin ac oddi yma hefyd yn
ategu prosiectau datblygu mawr yr awdurdod, fel Bargen Ddinesig Bae
Abertawe, sy’n cael ei ddatblygu gyda chydweithwyr rhanbarthol ac a fydd
yn rhoi hwb economaidd o £1.8 biliwn o leiaf i ranbarth De-orllewin
Cymru, gan greu 9,000 o swyddi newydd.
Byddai Canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin, pencadlys S4C bellach, hefyd
yn elwa ar y cysylltiadau rheilffordd gwell.
Mae ‘Pentre Awel’ yn ddatblygiad o bwys arall o fewn y sir sydd eisoes
ar y gweill. Golyga’r datblygiad hwn y bydd arloesi ym maes gwyddor
bywyd, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern yn cael eu
lleoli yn Ne Llanelli, a hynny gannoedd o fetrau’r unig o Orsaf
Reilffordd Llanelli. Bydd y prosiect yn creu 1,800 o swyddi ac yn rhoi
hwb o fwy na £467m i’r economi leol.
Bydd y prosiectau strategol hyn, ynghyd ag eraill megis datblygu ein
safle cyflogaeth strategol yn Cross Hands a datblygu Llwybr Dyffryn Tywi
rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, yn hybu twf ac yn darparu cyfleoedd
pellach i wella cysylltedd rheilffyrdd i’r sir, a’r tu hwnt i Sir
Benfro.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i
ddarparu system drafnidiaeth Metro De-orllewin Cymru a’r gobaith yw y
bydd y trenau’n ategu Metro De-orllewin Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Rwyf i, ynghyd â’r Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Edward Thomas,
wedi ysgrifennu at y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, yn cadarnhau bod
Cyngor Sir Gâr yn cefnogi cynnig _Grand Union Trains_ yn llwyr.
“Mae cynnig Grand Union Trains ar gyfer gwella gwasanaethau gan
ddarparu gwell cysylltedd o ran rheilffyrdd ac amseroedd teithio i
Gaerfyrddin a Gorllewin Cymru, trwy fuddsoddiad allanol, yn rhywbeth i’w
groesawu’n fawr, ac os bydd yn llwyddiannus bydd yn rhoi i drigolion Sir
Gâr wasanaethau trên intercity o safon, sy’n mynd yn uniongyrchol i
Lundain.
“Bydd yn golygu y gall trenau gystadlu â’r car, a thrwy hynny roi cyfle
i newid dulliau teithio a lleihau’r effaith gaiff teithio ar newid
hinsawdd. Ar hyn o bryd, mae llawer o drigolion Sir Gâr yn gyrru naill
ai i Gastell-nedd neu Bort Talbot er mwyn dal trên i Gaerdydd neu
Lundain, sy’n ychwanegu at lefelau traffig ar yr M4 yng nghyffiniau
Abertawe. Mae angen i ni helpu pobl i ddefnyddio llai o’r car a mwy o’r
rheilffyrdd.
“Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wastad wedi cefnogi’r achos dros wella
cysylltedd a lleihau amseroedd teithio drwy ddefnyddio Llinell Ardal
Abertawe. Bydd teithiau sy’n cymryd llai o amser yn y modd hwn yn helpu
i sicrhau manteision economaidd ac amgylcheddol i Sir Gaerfyrddin a
gweddill Gorllewin Cymru.”
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.