Cyfleusterau parcio ychwanegol yn Harbwr Porth Tywyn

Mae mwy o arian yn cael ei fuddsoddi mewn cyfleusterau parcio gwell yn Harbwr Porth Tywyn.

Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n gyfrifol am y gwaith hwn a fydd yn trawsnewid tir nad yw’n cael ei ddefnyddio digon yn barth parcio hygyrch ychwanegol gyda thua 100 a mwy o leoedd ar ochr ddwyreiniol yr harbwr, a bydd yr arwynebau a’r lleoedd sy’n bodoli eisoes hefyd yn cael eu huwchraddio.

Bydd mannau parcio i’r anabl yn cael eu darparu mewn lleoliad gwych gyda golygfeydd panoramig a bydd cyfleusterau gwefru E-feiciau a fydd yn gwella’r ddarpariaeth amgylcheddol a beicio.

Bydd gan gartrefi modur hefyd fynediad i rai mannau parcio yn ystod y dydd, o amgylch ardal yr Harbwr, ac mae cynlluniau a cheisiadau am gyllid ar gyfer datblygiadau pwrpasol ar hyd yr arfordir ehangach hefyd ar y gweill.

Bydd gan y maes parcio system ddraenio gynaliadwy newydd ynghyd â wyneb ffordd gwell a fydd yn sicrhau defnydd trwy gydol y flwyddyn.

Ariennir y prosiect ar y cyd gan y Cyngor a chynllun Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Pennaeth Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin, Ian Jones: “Ar hyn o bryd mae arwyneb y maes parcio i’r dwyrain o’r Harbwr yn raean rhydd sy’n arwain yn hawdd at dyllau ac mae llifogydd yn broblem yno’n rheolaidd, felly bydd y gwelliant hwn yn cynnig maes parcio mwy modern, cynaliadwy a deniadol i’n hymwelwyr.

“Bydd hefyd yn cyd-fynd â’r meysydd parcio presennol yn yr harbwr ac ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin.”

Dyma’r buddsoddiad diweddaraf mewn cyfres hir o fuddsoddiadau gwerth cyfanswm o £2m gan y cyngor i gynnal a chadw ac adfer yr harbwr hanesyddol ac un o fannau prydferth mwyaf poblogaidd y sir.

Mae’r gwaith o adfer waliau’r harbwr(rhestredig Gradd II), wedi’i wneud a’i gwblhau dan arweiniad CADW.

Bydd yn ychwanegu at y buddsoddiad a wnaed dros y blynyddoedd blaenorol pryd buddsoddodd y Cyngor mewn pontynau newydd, ynghyd â chynnal a chadw ac uwchraddio rheiliau a phont yr harbwr.

Mae gweithredwr lleol wedi cael y brydles ac wedi agor caffi a thoiledau cyhoeddus ar ochr ddwyreiniol yr Harbwr, ac yn ddiweddar mae The Marine Group (TMG) wedi dechrau adnewyddu hen swyddfa harbwr yr RNLI i greu tŷ coffi ar lan yr harbwr.

Mae cyfleusterau talu ac arddangos newydd wedi’u gosod i fod o gymorth o ran rheoli parcio cyn cynllun adfywio ehangach gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn trawsnewid yr harbwr drwy gymysgedd o dai a llefydd masnachol a hamdden ar ryw 13 erw o safle datblygu.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru: “Rydym yn ymwybodol iawn o’r rhan bwysig sydd gan amwynderau twristiaeth lleol o ran profiad cyffredinol rhywun pan fyddant ar daith undydd neu ar wyliau. Does dim llawer o bobl yn sylwi ar y cyfleusterau hyn ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobl pan fyddant yn ymweld â Chymru, yn ogystal â bod o fudd i’r rhai sy’n byw yn yr ardal.

“Bydd y £2.9m o gyllid newydd ar gyfer cronfa Y Pethau Pwysig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau a fydd yn ein helpu i wneud ein cyrchfannau yn fwy hygyrch a chynaliadwy, ynghyd â datblygu twristiaeth er lles Cymru.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page