Astudiaeth newydd ar Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn awgrymu canlyniadau calonogol i ffermydd bîff a defaid Cymru

Mae astudiaeth Cyswllt Ffermio ar allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a gynhyrchir gan fentrau cig coch wedi dangos bod ffermydd Cymru yn is na’r meincnod ar gyfer ffermydd tebyg ar draws y DU.

Cynhaliwyd archwiliad carbon manwl ar fusnes 185 o ffermydd Cymru drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio yn ystod y rhaglen flaenorol ac mae’r rhain wedi cynhyrchu canlyniadau calonogol.

Roedd allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchwyd gan y mentrau bîff ar y ffermydd hyn 17% yn llai na’r ffigwr meincnod ar gyfer buchod sugno sy’n lloia yn y gwanwyn yn yr ucheldir a gyhoeddwyd yn Llawlyfr Rheoli Ffermydd 2022/23, sydd yn cynrychioli ffermydd ledled y DU.

Ar 35.61kg CO2 e/kg pwysau marw (DW), roeddent hefyd 5.7% yn llai na’r ffigwr meincnod carbon ar gyfer buchod sugno sy’n lloia yn y gwanwyn ar dir isel ledled y DU.

Ar gyfer mentrau defaid, roedd y ffigwr o 29.89 kg CO 2 e/kg DW oen ar gyfartaledd 9.3% yn is na’r ffigwr meincnod ar gyfer diadell o famogiaid mynydd a 2.9% yn llai na’r meincnod ar gyfer diadell o famogiaid croesfrid.

Yr hyn a ddangosodd yr astudiaeth oedd amrywiad mawr yng nghyfanswm yr allyriadau fesul cilogram o gynnyrch ar gyfer pob menter, ond rhoddodd dadansoddiad pellach resymau clir yn y rhan fwyaf o achosion dros y gwerthoedd sylweddol uchel ac isel.

“Roedd yn amlwg nad oedd unrhyw gydberthynas rhwng maint y fferm a chyfanswm yr allyriadau fesul allbwn,” meddai Non Williams, Swyddog Carbon Arbenigol Cyswllt Ffermio .

Methan oedd cyfran fawr o gyfanswm yr allyriadau a gynhyrchwyd gan ffermydd bîff a defaid, a oedd yn deillio o eplesiad enterig.

Defnyddiwyd un cyfrifiannell carbon fferm ar gyfer yr astudiaeth er mwyn sicrhau cysondeb â’r ffermydd meincnod gan fod yr offeryn hwn hefyd wedi’i ddefnyddio ar y ffermydd meincnod. Defnyddiwyd offer cyfrifo carbon eraill i gwblhau archwiliad carbon ar gyfer ffermydd y tu hwnt i sampl yr astudiaeth, gyda’r offeryn yn cael ei ddewis gan y ffermwr a’r ymgynghorydd unigol a oedd yn cefnogi’r gwaith.

Darparodd yr archwiliadau carbon wybodaeth bwrpasol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr fferm gyfan pob busnes, hyd at yr adeg pan adawodd y cynnyrch giât y fferm. Rhoddwyd amcangyfrifon o atafaelu carbon hefyd.

Rhoddwyd amcangyfrifon i’r ffermwyr dan sylw o’r carbon a atafaelwyd ar eu ffermydd gan bridd, coed a gwrychoedd yn eu hadroddiadau.

Roedd ganddynt hefyd argymhellion ynghylch mesurau ymarferol y gallent eu cymryd i leihau cynhyrchiant nwyon tŷ gwydr ymhellach a gwella lefelau dal a storio carbon. Roedd y mesurau hyn yn cynnwys gwella iechyd y fuches a’r ddiadell, rheoli tail a mabwysiadu dulliau llai o drin tir ar gyfer ail-hadu.

“Bydd hyn yn helpu busnesau fferm Cymru i wella effeithlonrwydd yn ogystal â helpu i weithio tuag at dargedau ‘sero net’,” meddai Dr Williams.

Bydd rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth newydd Cyswllt Ffermio, a ddechreuodd ar 1 Ebrill 2023, yn parhau i gynnig cymorth i fusnesau fferm a thir yng Nghymru.

Gall y Gwasanaeth Cynghori newydd gynnig hyd at 90% o gyllid i bob busnes cymwys tuag at gyngor annibynnol a chyfrinachol hyd at uchafswm o £3,000.

Gallai hyn gynnwys archwiliad carbon gydag argymhellion ar sut y gellid cyflawni gostyngiadau o bosibl, megis trwy wella rheolaeth pridd a dal a storio a thrwy iechyd ac effeithlonrwydd anifeiliaid.

Er bod yr astudiaeth hon yn adlewyrchiad calonogol iawn o’r sector cig coch yng Nghymru, mae’n pwysleisio bod lle i wella o hyd. Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig ystod lawn o wasanaethau i gynorthwyo ffermwyr Cymru i leihau ôl troed carbon eu cynnyrch. “Mae cyngor pellach ar gael i edrych yn fanylach ar rai o’r argymhellion, megis samplo pridd a Chynllunio Rheoli Maetholion,” meddai Dr Williams.

● SAC Consulting, 2022. Y Llawlyfr Rheoli Ffermydd 2022/2023. Ar gael ar: https://www.fas.scot/downloads/farm-management-handbook-2022-23/ .

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page