Bydd canolfannau dysgu iaith newydd yn cefnogi plant i fod yn ddwyieithog

Mae dwy ganolfan dysgu iaith newydd wedi’u datblygu yn Sir Gaerfyrddin i roi cymorth ychwanegol i blant ddod yn ddwyieithog.

 

Adeiladwyd y canolfannau iaith – un ar gyfer disgyblion oedran cynradd a’r llall ar gyfer disgyblion mewn ysgolion uwchradd – ar safle Ysgol Maes y Gwendraeth.

 

Byddant yn darparu addysg drochi – lle mae’r addysgu a’r dysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg – ar gyfer dysgwyr ledled y sir, yn enwedig y rhai sy’n newydd i Sir Gaerfyrddin ac addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Bydd y canolfannau’n cynnig sesiynau gloywi iaith i wella’r Gymraeg ar adegau pontio hanfodol megis diwedd y cyfnod sylfaen, ac yn darparu rhaglenni dal i fyny ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 6/7 lle mae angen gwella sgiliau iaith er mwyn sicrhau eu bod yn symud yn hwylus i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.

 

Byddant hefyd yn sicrhau profiadau cadarnhaol o ddysgu iaith i rieni/gwarcheidwaid i’w galluogi i helpu eu plant i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol ac yn y cartref.

 

A bydd y canolfannau’n cael eu defnyddio i wella sgiliau athrawon a staff cymorth i’w galluogi i addysgu’n ddwyieithog yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi, ac i wella sgiliau Cymraeg staff ar y continwwm iaith. Bydd hyn yn adeiladu ar brosiect peilot arloesol yn ardal Llanelli sy’n darparu cymorth Cymraeg i staff o ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg.

 

Derbyniodd y cyngor Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg o £985,248 gan Lywodraeth Cymru i sefydlu’r ddwy ganolfan iaith.

 

Mae wedi ymrwymo i greu Sir Gaerfyrddin ddwyieithog ac amlieithog ac mae’r canolfannau hyn yn rhan o gynllun llawer mwy.

 

Mae’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi’i gymeradwyo gan Gabinet y cyngor (31 Ionawr) yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth wyth wythnos ac mae’n nodi gweledigaeth y cyngor ar gyfer addysg ddwyieithog am y 10 mlynedd nesaf.

 

Mae’r cynllun yn adlewyrchu’r maes dysgu ieithoedd yng Nghwricwlwm Newydd Cymru ac yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

 

Mae’n dangos sut y bydd y cyngor yn datblygu darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion yn seiliedig ar y canlyniadau a’r targedau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Y nod yw i bob plentyn yn Sir Gaerfyrddin fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg pan fyddant yn gadael yr ysgol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy’r canlynol:

Mwy o blant meithrin (3 oed) yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Mwy o blant y dosbarth derbyn (5 oed) yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Mwy o blant yn gwella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o’u haddysg statudol i gam arall
Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau yn y Gymraeg (fel pwng) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau mewn ysgolion
Cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag ADY, yn unol â’r Ddeddf ADY newydd
Cynnydd yn y nifer o athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi agor y ddwy ganolfan iaith hyn i gefnogi ein dysgwyr ysgol gynradd ac ysgol uwchradd ar eu taith ddwyieithog, a staff ein hysgolion i wella eu sgiliau Cymraeg y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth.

 

“Y llety pwrpasol hwn, sydd wedi’i leoli yn Ysgol Maes y Gwendraeth, yw lle gall disgyblion o bob oed ddysgu Cymraeg mewn amgylchedd arloesol uwch-dechnoleg modern.

 

“Rydym newydd gyflwyno ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru, ac mae’r canolfannau newydd hyn yn cefnogi ein nod o gael pob plentyn yn hyderus ddwyieithog erbyn eu bod yn saith oed, neu’n sicr erbyn eu bod yn 11 oed, drwy ddefnyddio technegau addysg drochi yn y blynyddoedd cynnar.

“Rydym am i’n plant allu elwa o’r manteision niferus i fod yn ddwyieithog – o gyrhaeddiad addysgol i gyflogadwyedd ac iechyd.

“Nis yn unid y mae tystiolaeth o ganlyniadau gwell, ond mae pobl ddwyieithog yn dueddol o fod yn fwy creadigol a hyblyg, ac maent yn ei chael hi’n haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau a dysgu ieithoedd ychwanegol.

“Ar gyfartaledd, mae pobl ddwyieithog hefyd yn ennill 11% yn fwy, ac mae ymchwil yn dangos y gall dwyieithrwydd helpu i oedi dementia a symptomau eraill Alzheimers. Ac mae medru’r Gymraeg yn rhoi mynediad i agweddau helaeth ar ddiwylliant, hanes a hunaniaeth Cymru.”

Mae’r adeilad annibynnol newydd yn cynnwys tair ystafell ddosbarth newydd ar y llawr cyntaf i’w defnyddio gan yr ysgol i helpu gyda chapasiti cyfrwng Cymraeg ychwanegol oherwydd y galw cynyddol. Mae’r ddwy ganolfan iaith wedi’u lleoli ar lawr gwaelod yr adeilad, a adeiladwyd gan y contractwr lleol, Jones Brothers Ltd.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Ein blaenoriaeth yw rhoi’r addysg orau i’n plant er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddynt. Mae hyn yn cynnwys llety a chyfleusterau modern o’r radd flaenaf a chynyddu’r cyfleoedd i’n holl bobl ifanc gyfathrebu’n ddwyieithog, neu hyd yn oed yn amlieithog, a’r holl fanteision sy’n gysylltiedig ag ef.

“Mae’r byd rydyn ni’n byw ynddo yn newid yn gyflym, ac mae’n bwysig ein bod ni’n gallu paratoi ein pobl ifanc i ffynnu ym mha bynnag lwybr maen nhw’n ei ddewis yn y dyfodol drwy roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo.”

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page