Penodi’r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden bod y Farwnes Tanni Grey-Thompson wedi’i phenodi’n Gadeirydd newydd Chwaraeon Cymru.

Mae Tanni Grey-Thompson yn enwog am ei llwyddiannau fel athletwr, ac mae’n enillydd mwy nag un medal aur mewn chwaraeon Paralympaidd. Bu’n cystadlu dros Gymru mewn pum Gêm Baralympaidd a thair o Gemau’r Gymanwlad, gan ennill 16 medal, gan gynnwys 11 medal aur, ac mae’n dal dros 35 o recordiau byd.

Fe’i ganwyd yng Nghaerdydd, dechreuodd rasio cadair olwyn yn ddeuddeg oed, ac ymunodd â Chlwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr yn bymtheg oed. Astudiodd ym Mhrifysgol Loughborough, gan ennill gradd anrhydedd mewn Gwleidyddiaeth a Gweinyddiaeth Gymdeithasol, ac mae wedi bod yn aelod annibynnol ar draws y fainc yn Nhŷ’r Arglwyddi ers 2010.

Mae Tanni yn cyfuno profiad helaeth iawn fel athletwr elît gyda phrofiadau personol o weithio fel swyddog datblygu a hyfforddwr llwybr doniau.

Ar hyn o bryd mae’n gadeirydd UK Active (tan fis Mehefin 2022), yn ymddiriedolwr Sefydliad Chwaraeon y Gymanwlad, ac yn llysgennad UNICEF.

Fel Cadeirydd Chwaraeon Cymru, bydd Tanni yn atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon am berfformiad Chwaraeon Cymru ac am gyflawni blaenoriaethau strategol. Mae datblygu a chynnal perthynas agos â’r Dirprwy Weinidog ac aelodau allweddol o Lywodraeth Cymru yn rhan hanfodol o rôl y Cadeirydd.

Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Rwy’n falch iawn o benodi Tanni i’r rôl hollbwysig hon ym maes chwaraeon yng Nghymru. Mae’n dod â chyfoeth o brofiad a llawer o agweddau i’r rôl – nid yn unig y mae wedi ysbrydoli cenedl yn y maes cystadleuol, ond mae ganddi hefyd brofiadau llysgenhadol a strategol sylweddol ar lefel ryngwladol.

“Wrth inni ddathlu llwyddiannau menywod ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw, bydd ei phenodiad yn dod â gwerth enfawr i chwaraeon yng Nghymru. Mae wedi bod yn llais credadwy a darbwyllol i ieuenctid, i fenywod, ac i athletwyr anabl ar draws sawl maes o fywyd cyhoeddus, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Lawrence Conway am ei waith rhagorol fel Cadeirydd dros y pum mlynedd diwethaf wrth iddo adael y sefydliad mewn cyflwr da yn dilyn cyfnod heriol dros ben.”

Meddai y Farwnes Tanni Grey-Thompson:

“Rwyf wrth fy modd ac wedi fy nghyffroi gan y cyfle hwn i gefnogi pobl i fod yn egnïol ac i fyw bywydau iach. Credaf yn gryf, pe na bawn wedi cael fy ngeni a’m magu yng Nghymru, na fyddwn wedi profi’r cyfleoedd a gefais.

“Ar lefel bersonol, mae’r penodiad hwn yn cwblhau cylch. Chwaraeon Cymru (ac Elite Cymru) oedd y bwrdd cyntaf i mi ymuno ag ef tra oeddwn yn dal i fod yn athletwr oedd yn cystadlu – rhoddodd gipolwg go iawn i mi ar sut mae’r system chwaraeon yn gweithio o’r ddau safbwynt. Mae’n fraint wirioneddol cael cynnig y cyfle hwn.”

Bydd y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn dechrau yn ei swydd ar y 4ydd o Orffennaf, gan gymryd yr awenau oddi wrth Lawrence Conway sy’n camu i lawr ar ôl 5 mlynedd.

Meddai Lawrence Conway: “Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi arwain Chwaraeon Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r Bwrdd a holl staff Chwaraeon Cymru sydd wedi gweithio mor galed ac wedi bod mor gefnogol dros y cyfnod hwn. Credaf fod y sefydliad mewn lle da iawn ar hyn o bryd.

“Ond mae heriau o’n blaenau bob amser ac ni allaf feddwl am unrhyw un sy’n fwy addas i arwain y sefydliad wrth ymateb i’r heriau hynny na Tanni, ac mae ei hanes a’i hymrwymiad i chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar bob lefel yn siarad drostynt eu hunain. Dymunaf bob llwyddiant iddi.”

 

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page