Gweinidog yn datgelu cynllun newydd i gael mwy o bobl yng Nghymru i weithio

Heddiw mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi datgelu cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl yng Nghymru i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.

Mae’r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau newydd yn nodi’r camau y bydd Gweinidogion yn eu cymryd i gyflawni’r Warant i Bobl Ifanc, cefnogi’r bobl sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur i ddod o hyd i waith, a chanolbwyntio ar wella’r canlyniadau yn y farchnad lafur i bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod a’r rhai sydd â sgiliau isel.

Mae hefyd yn nodi mesurau i helpu pobl i aros mewn gwaith drwy godi lefelau sgiliau ac atal pobl rhag peidio â chymryd gwaith neu golli cyflogaeth oherwydd cyflwr iechyd.

Dywedodd y Gweinidog y bydd y cynllun yn helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer Cymru mwy teg a chyfartal lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl na’i ddal yn ôl, gan helpu i newid bywydau pobl er gwell.

Mae’r cynllun newydd yn nodi pum maes gweithredu allweddol dros dymor y llywodraeth hon, a fydd yn helpu i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd cerrig milltir tymor hwy Llywodraeth Cymru.

Mae’r pum maes yn cynnwys:

Cyflawni’r Warant i Bobl Ifanc – er mwyn diogelu cenhedlaeth rhag effeithiau colli dysgu ac oedi wrth ymuno â’r farchnad lafur, a helpu i wneud Cymru’n wlad lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo’n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol.
Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd – drwy symud ffocws rhaglenni cyflogadwyedd at helpu’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur i ddod o hyd i waith, a gwella’r canlyniadau yn y farchnad lafur i bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod a’r rhai sydd â sgiliau isel. Mae hyn yn cynnwys adeiladu ar y dull cymunedol llwyddiannus mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol.
Hyrwyddo Gwaith Teg i bawb – drwy ddefnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i wella’r cynnig i weithwyr, ac annog cyflogwyr i wneud gwaith yn well, yn decach ac yn fwy diogel.
Rhoi mwy o gefnogaeth i bobl â chyflyrau iechyd hirdymor allu gweithio – angori’r gwasanaeth iechyd yn well fel cyflogwr ac fel rhan o’r rhwydwaith cyflenwi i atal pobl rhag peidio â chymryd gwaith neu golli cyflogaeth oherwydd cyflwr iechyd.
Codi lefelau sgiliau a gwella hyblygrwydd y gweithlu – drwy ehangu cyfleoedd dysgu hyblyg a phersonol i bobl mewn gwaith ac allan o waith fel eu bod yn cael y cyfle i wella eu sgiliau, dod o hyd i waith neu ailhyfforddi drwy gydol eu bywydau.
Fel rhan o’r cynllun bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’i phartneriaid i helpu i sicrhau bod 90% o bobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Bydd hefyd yn gweithio i ddileu’r bwlch cyflog ar gyfer menywod, unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl anabl ac i ddileu’r bwlch yn y gyfradd gyflogaeth rhwng Cymru a’r DU gan ganolbwyntio’n benodol ar grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wrth lansio’r cynllun newydd:

“Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd newydd yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru decach a mwy cyfartal lle rydym yn ymdrechu i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl na’i ddal yn ôl ac yn ymrwymo i newid bywydau pobl er gwell.

“Drwy’r cynllun hwn rydym am godi pobl allan o dlodi a helpu pawb – yn enwedig y rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur – i lywio ac ymateb i’r heriau sy’n gysylltiedig â gwaith y byddant yn eu hwynebu drwy gydol eu bywydau, boed hynny drwy hyfforddiant, ailhyfforddi, uwchsgilio, newid gyrfa neu ddechrau busnes. Bydd yn adeiladu ar y gwelliant sylweddol yn y farchnad lafur ac o ran sgiliau yng Nghymru ers cyhoeddi’r cynllun diwethaf yn 2018.

“Bydd hefyd yn ein helpu i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau Cymru drwy sicrhau amrywiaeth yn y gweithlu, gan fanteisio i’r eithaf ar ein doniau yng Nghymru a datblygu economi sy’n gweithio i bawb.

“Gadewch i ni fod yn glir, ni allwn ddarparu’r cyfan o’r miliynau coll a gollwyd drwy Ymadael â’r UE, ond rydym wedi blaenoriaethu cyllidebau i hwyluso’r broses bontio ac i hybu ein buddsoddiad mewn pobl a sgiliau.

“Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi ein huchelgais i fuddsoddi yn noniau ein pobl a rhoi’r £1 biliwn a gollwyd yn ôl i Gymru.”

I gefnogi’r cynllun, fe wnaethom ymestyn y Cynnig Gofal Plant yr wythnos diwethaf er mwyn cefnogi rhieni i ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.

Heddiw, mae’r Gweinidog yn cyhoeddi lansiad Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhaglen gwerth £200m yn benodol ar gyfer pobl ifanc. Bydd hyn yn disodli rhaglenni presennol Twf Swyddi Cymru a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru.

O dan Twf Swyddi Cymru+, bydd pobl ifanc yn cael cymorth unigol i roi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad iddynt ddod o hyd i swydd ac aros mewn cyflogaeth.

Mae hyblygrwydd a chymorth wedi’i deilwra yn ganolog i’r rhaglen newydd a bydd contractwyr yn gweithio gyda phobl ifanc i sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i fanteisio ar gyfleoedd, gan gynnwys oriau hyfforddi hyblyg a chymorth gyda theithio, costau gofal plant ac offer arbenigol.

Bydd cymorthdaliadau cyflog o hyd at 50% o gyflog y chwe mis cyntaf ynghyd â hyfforddiant yn y gwaith ar gael i fusnesau sy’n cyflogi pobl ifanc 16-18 oed drwy’r cynllun.

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn lansio ReAct+, sy’n rhaglen newydd i uwchsgilio a helpu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ar hyn o bryd, a hefyd oedolion di-waith, i mewn i waith.

Mae’r ddwy raglen newydd hyn yn rhan o gynllun Gwarant i Bobl Ifanc uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, sy’n dwyn ynghyd ystod eang o raglenni sydd wedi’u cynllunio i ddarparu’r cymorth cywir i bobl ifanc ledled Cymru.

Dywedodd y Gweinidog:

“Bydd cefnogi busnesau Cymru i addasu, tyfu eu gweithlu a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol yn hanfodol.

“Mae’r rhaglenni newydd hyn wedi’u cynllunio i helpu busnesau i recriwtio a chynllunio’u gweithlu, gan greu mwy o gyfleoedd gwaith yn y sectorau y mae angen i ni eu datblygu a chefnogi pobl ifanc ar eu taith i gyflogaeth ar yr un pryd. Yn bwysig iawn, maent yn rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc i sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yng Nghymru yn colli cyfle i gael gyrfa werth chweil oherwydd y pandemig.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page