Mae Llwyddo’n Lleol 2050 wedi lansio cyfle arbennig i 24 person ifanc i ymuno â rhaglen hyfforddiant busnes 10 wythnos.
Mae’r cyfle yn rhan o elfen ‘Mentro’ Llwyddo’n Lleol 2050 ac maent yn galw ar bobl ifanc rhwng 18-35 oed o ardal ARFOR (sef siroedd Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn), sydd awydd dechrau busnes neu sydd wedi sefydlu busnes yn y ddwy flynedd ddiwethaf ac am ddatblygu ei busnes ymhellach i ymgeisio am y cyfle unigryw yma.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr busnes ar ystod eang o bynciau gan gynnwys marchnata, rheoli cyllid a denu cwsmeriaid. Yn ogystal â chefnogaeth arbenigol bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn cymorth ariannol o £1,000 i ddatblygu ei syniad busnes.
Mi fydd yna gyfle ychwanegol hefyd i un unigolyn o fewn pob carfan i ennill £1,000 ychwanegol mewn cystadleuaeth ar ddiwedd y rhaglen hyfforddiant lle bydd yr unigolion yn cyflwyno ei syniad busnes i banel o feirniaid gyda’r buddugol yn derbyn y wobr ariannol ychwanegol.
Drwy gymryd rhan yn y sesiynau, fe fydd yna gyfle iddynt ddatblygu rhwydwaith o entrepreneuriaid ifanc er mwyn eu galluogi i rannu syniadau a heriau a chreu cysylltiadau ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Aled Pritchard, un o swyddogion prosiect Llwyddo’n Lleol: “Mae Llwyddo’n Lleol, o dan gynllun ARFOR 1, eisoes wedi cefnogi sawl unigolyn ifanc o Wynedd a Môn i fynd ati i lwyddo yn lleol a sefydlu busnes. A dwi’n hynod o gyffrous o dan ARFOR 2 fod modd i ni groesawu pobl ifanc o Sir Gâr, a Cheredigion yn ogystal â Gwynedd a Môn i fanteisio ar y cyfle yma.
“Byddwn i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn sefydlu busnes neu ddatblygu busnes newydd i wneud cais. Boed yn syniad bach neu fawr, ewch amdani!”
Ychwanegodd Jade Owen, Rheolwr Prosiect Llwyddo’n Lleol 2050: “Un o amcanion y prosiect yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymunedau cynhenid.
“Mae’r cyfle yma yn fodd o roi siawns i bobl ifanc i arbrofi gyda mentergarwch a datblygu sgiliau fyddai’n galluogi iddynt i gael yr hyder i ddechrau busnes a ffynnu o fewn eu hardaloedd.”
Dyma’r ffenest ymgeisio gyntaf o dan yr elfen ‘Mentro’ ac mi fydd y ffenest yn agored rhwng y 20fed o Fedi a’r 1af o Hydref.
Cyn mynd ati i lenwi’r ffurflen gais fe anogir ymgeiswyr i ddarganfod fwy am y cyfle a’r gofynion drwy ddarllen y canllawiau a welir yma
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.